Gweithiwr Cefnogi Gwasanaeth

1 week ago


Wrexham, United Kingdom British Red Cross Full time

**Gweithiwr Cefnogi Gwasanaeth - Adran Achosion Brys**
**Lleoliad: Ysbyty Maelor Wrecsam, LL13 7TD**
**Math o gontract: Cyfnod Penodol Hyd at 31 Mawrth 2026**
**Oriau'r wythnos: 18**
**Cyflog: £20,405 - £21,210 y flwyddyn pro-rata**
**Gyrru: Angen Trwydded Yrru Lawn y DU i yrru cerbyd y Groes Goch Brydeinig**

Ydych chi wrth eich bodd yn helpu pobl mewn angen? Ydych chi'n chwilio am rôl werth chweil a allai roi hwb i'ch gyrfa yn y sector iechyd a chymdeithasol?

Rydym yn chwilio am berson gofalgar a gwydn, a all feddwl ar eu traed mewn amgylchedd dan bwysau i ymuno â'n tîm Byw'n Annibynnol fel Gweithiwr Cefnogi Gwasanaeth yn Wrecsam

Wedi'ch lleoli mewn Adran Achosion Brys cyflym, prysur a dwys, byddwch yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i gleifion. Byddwch yn cyflawni tasgau anfeddygol i ryddhau'r staff meddygol i allu canolbwyntio ar eu rôl glinigol a gwneud arhosiad ymwelwyr mor gyfforddus â phosibl.

**Bydd diwrnod ym mywyd Gweithiwr Cefnogi Gwasanaeth yn cynnwys**:
Hebrwng cleifion i adrannau penodedig

Casglu presgripsiynau i gyflymu eu rhyddhau

Darparu cymorth emosiynol/gofal bugeiliol tra byddant yn aros am driniaeth

Darparu cefnogaeth emosiynol i ffrindiau agos a theuluoedd

Sicrhau bod cleifion yn cael bwyd/diod wrth aros am oriau hir a chynorthwyo gyda dosbarthu bwyd yn ystod amser bwyd

Gyrru cleifion adref ar ôl eu rhyddhau a gwneud yn siŵr eu bod wedi setlo gartref yn ddiogel

Cyfeirio cleifion at ffynonellau cymorth eraill yn y gymuned

Sylwch fod y gwasanaeth hwn yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 10am ac 8pm (gan gynnwys gwyliau banc) a disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo i sifftiau hyd at 10 awr (diwrnodau hyblyg).

**I fod yn Weithiwr Cefnogi Gwasanaeth llwyddiannus, bydd angen**:
Gwybod sut i wella ansawdd gwasanaeth er budd defnyddwyr, gan ymdrin ag ymholiadau mewn modd diplomyddol a chyfrinachol.

Gwybodaeth dda am wasanaethau a ddarperir gan y GIG a Gofal Cymdeithasol.

Addysg hyd at lefel TGAU (neu gyfwerth trwy brofiad).

Bod yn llythrennog mewn TG.

Trwydded yrru lawn y DU sy'n eich galluogi i yrru cerbyd trawsyrru â llaw.

**Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23.59 ar 17 Ebrill gyda chyfweliadau i ddilyn.**

**Yn gyfnewid am eich ymrwymiad a'ch arbenigedd, byddwch yn cael**:

- Gwyliau - Byddwch yn cael hyd at 36 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc) a’r opsiwn i brynu 5 diwrnod o wyliau ychwanegol.
- Cynllun pensiwn - Rydym yn cynnig hyd at 6% o bensiwn cyfrannol.
- Gweithio hyblyg - Byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd sy'n addas i chi
- Cyfleoedd Dysgu a Datblygu - Ni yw un o elusennau mwyaf y DU ac mae gennym ystod eang o gyfleoedd gyrfa. Rydym hefyd yn darparu cyfleoedd dysgu cynhwysfawr i staff ddatblygu eu hunain.
- Gostyngiadau - Bydd gennych fynediad at ostyngiadau gwych trwy'r Cerdyn Gostyngiad Golau Glas a'n platfform buddion gweithwyr ein hunain.
- Cymorth Lles - Mae lles staff bob amser yn flaenoriaeth. Byddwch yn cael mynediad at gymorth iechyd meddwl a lles.
- Gweithio mewn Tîm - Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm sy'n cefnogi ein cenhadaeth o helpu pobl mewn argyfwng.
- Beicio i'r Gwaith - Mae'r cynllun beicio i'r gwaith yn eich galluogi i brydlesu beic.
- Benthyciad tocyn tymor - Rydym yn cynnig benthyciad di-log i brynu tocyn tymor ar gyfer teithio rhwng y cartref a’r gwaith.

Yn Y Groes Goch Brydeinig, rydym yn ymfalchïo yn ein gweithlu amrywiol, ac yn sicrhau bod gennym amgylchedd cynhwysol ar gyfer ein holl staff a gwirfoddolwyr. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau y gall ein timau ddod â'u hunain i'r gwaith heb risg nac ofn gwahaniaethu. Rydym yn gwneud hyn trwy adroddiadau data rheolaidd, a chefnogaeth ein Rhwydwaith Hil a Chydraddoldeb mewnol (REEN), Rhwydwaith LHDT+, ein Rhwydwaith Anabledd a Lles (DAWN), Rhwydwaith Rhyw, Rhwydwaith Gofalwyr a Rhwydwaith Ieuenctid.

Cysylltu caredigrwydd dynol ag argyfwng dynol


  • Swim Teacher

    Found in: Talent UK C2 - 2 weeks ago


    Wrexham, United Kingdom Freedom Leisure Full time

    Ydych chi am wneud gwahaniaeth oddi fewn i’ch cymuned leol, cefnogi pobl i wella eu bywydau drwy hamdden? Os ydych chi’n teimlo wedi’ch ysgogi i ysbrydoli pobl i fod yn fwy actif a gwella eu llesiant ac os hoffech chi gael swydd a fydd yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl leol yna Freedom Leisure yw’r lle i chi!Ymddiriedolaeth hamdden nid er elw...

  • Swim Teacher

    Found in: Talent UK C2 - 2 weeks ago


    Wrexham, United Kingdom Freedom Leisure Full time

    Ydych chi am wneud gwahaniaeth oddi fewn i’ch cymuned leol, cefnogi pobl i wella eu bywydau drwy hamdden? Os ydych chi’n teimlo wedi’ch ysgogi i ysbrydoli pobl i fod yn fwy actif a gwella eu llesiant ac os hoffech chi gael swydd a fydd yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl leol yna Freedom Leisure yw’r lle i chi!Ymddiriedolaeth hamdden nid er elw...