Swyddog Ystadau

2 weeks ago


Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

**Amdanom ni**:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

**Y rôl**:
Diben y rôl yw datblygu, rheoli a monitro systemau a gweithdrefnau’r Coleg ar gyfer iechyd a diogelwch ac arolygu a chydymffurfio statudol amgylcheddol. Nodi gofynion deddfwriaethol a gweithredu dull arfer gorau ar draws holl safleoedd y campws, gan roi gwybod i staff perthnasol fel sy'n ofynnol.
- Amser-Llawn (37 awr yr wythnos)
- Parhaol
- £31,948 - £34,077 y flwyddyn
- Campws Tycoch

**Cyfrifoldebau Allweddol**:

- Nodi dulliau arfer gorau a rhoi diweddariadau deddfwriaethol i’r rheolwr Ystadau ac Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd mewn perthynas ag arolygu statudol a phrofi cyfnodol
- Nodi unrhyw ofynion adrannol penodol sy'n ymwneud ag arolygu statudol a phrofi cyfnodol
- Gweithio gyda chydweithwyr ystadau wrth geisio gwella systemau cydymffurfio statudol yn barhaus a darparu cymorth rheoli cydymffurfio effeithiol a chanllawiau i adrannau’r Coleg
- Gyda’r Rheolwr Ystadau a’r Rheolwr Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd; cynllun, caffael, amserlennu, cydlynu a chofnodi trefnau arolygu a phrofi statudol yn holl adeiladau’r coleg er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben.

**Amdanoch chi**:

- Tystysgrif Gyffredinol Genedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol neu barodrwydd i gyflawni hyn o fewn 6 mis
- Cymhwyster priodol yn y diwydiant adeiladu
- Gwybodaeth am amrywiaeth o faterion cydymffurfio statudol a gofynion profi fel y nodwyd yn y Disgrifiad Swydd

**Buddion**:

- 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- 2 ddiwrnod lles i staff
- Cynllun beicio i’r gwaith
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad._

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar. _

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).