Swyddog Cymru

3 weeks ago


Wales, United Kingdom University and College Union Full time

Swydd: Swyddog Cymru

Rhif Cyfeirnod: WO1

Cyflog: £62,145 y.f.

Oriau: 35 yr wythnos

Contract: Parhaol, llawn amser

Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr, Morgannwg

Dyddiad Cau: 22 Mawrth

**Amdanom ni**:
Mae'r Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) yn cynrychioli dros 123,000 o academyddion, darlithwyr, hyfforddwyr/cyfarwyddwyr, ymchwilwyr, rheolwyr, gweinyddwyr, staff cyfrifiadurol, llyfrgellwyr, ac ôl-raddedigion mewn prifysgolion, colegau, carchardai, addysgoedolion a sefydliadau hyfforddi ledled y DU. Mae gennym hefyd aelodau yn y sector preifat, er enghraifft mewn asiantaethau hyfforddi preifat ac ysgolion iaith, yn ogystal ag aelodau sy'n gweithio'n llawrydd. Mae myfyrwyr sy'n hyfforddi i addysgu ym maes addysgôl-ysgol hefyd yn perthyn i UCU.

**Swyddog Cymru** - Yngl n â'r rôl:
Mae'r Adran Bargeinio, Trefnu, Cynrychioli a Gweithrediadau yn UCU yn chwilio am Swyddog Cymru i arwain y tîm ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Morgannwg. Byddwch yn adrodd i'r Pennaeth Bargeinio, Trefnu, Cynrychioli a Gweithrediadau, a bydd eich prif ddyletswyddau'ncynnwys:

- Gweithredu cynlluniau strategol UCU yn effeithiol yng Nghymru
- Sicrhau a chynnal cydnabyddiaeth o UCU yng Nghymru
- Goruchwylio trefniadau i sicrhau bod cytundebau cenedlaethol, graddfeydd cyflog ac amcanion bargeinio eraill y cytunwyd arnynt yn genedlaethol yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol ar lefel cangen
- Rheoli tîm staff a swyddfa UCU Cymru
- Cyfrifoldeb dros drefniadaeth UCU yng Nghymru, gan gynnwys achredu cynrychiolwyr UCU

**Swyddog Cymru** - Chi:

- Byddai'r swydd yn addas ar gyfer rhywun â phrofiad o weithio mewn amgylchedd tebyg a/neu ddealltwriaeth o weithio i undeb llafur neu sefydliad nid er elw arall
- Bydd angen gwybodaeth dda am y sector addysg ôl-orfodol; gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol ynghylch cyfraith cyflogaeth, yn ogystal â phrofiad o gydfargeinio a threfnu undeb llafur
- Gyda sgiliau rhyngbersonol ardderchog, byddwch yn gallu cynrychioli aelodau a bod yn barod i deithio o fewn y rhanbarth
- Bydd gennych addysg hyd at lefel TGAU (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg) neu lefel gyfatebol

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw'n faen prawf hanfodol ar gyfer y swydd

**Rhagor o wybodaeth**

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw ymgeisydd ond rydym yn arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan fenywod, ac ymgeiswyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, sydd ar hyn o bryd heb gynrychiolaeth ddigonol ar y radd hon yn UCU. Os yw'r swydd hon yn addasar eich cyfer ac o ddiddordeb i chi, rydym yn eich gwahodd i ymuno â sesiwn friffio ar-lein am y swydd a gweithio yn yr Undeb, am 1pm ar 15 Mawrth. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau i'r rheolwr recriwtio hefyd. Os hoffech, ymuno â'r sesiwn friffio, gweler yr hysbysebar ein gwefan am fanylion ar sut i wneud cais. Bydd rhaid i ni gael gwybod erbyn canol dydd ar 14 Mawrth os hoffech fod yn bresennol. Nid oes angen i chi fod yn bresennol yn y sesiwn friffio i wneud cais.

Buddiannau gweithio i'r Undeb Prifysgolion a Cholegau

Mae UCU yn cynnig nifer o fuddiannau ariannol a lles i gefnogi ei gyflogeion. Gweler yr hysbyseb ar ein gwefan am fanylion pellach.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 22 Mawrth am 10 am.

Dyddiad y cyfweliad: 24 Ebrill

Rydym yn hapus i gael ceisiadau mewn fformatau amgen gan ymgeiswyr a allai gael anhawster llenwi ein ffurflen safonol, oherwydd anabledd. Gweler yr hysbyseb ar ein gwefan am fanylion pellach.

**Monitro Amrywiaeth a Chynhwysiant**

Mae angen eich cymorth arnom i sicrhau bod ein cyflogeion yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd, felly rydym yn croesawu ceisiadau gan gymunedau dan anfantais yn arbennig. Hyd yn oed os na chewch eich dewis, byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallech gwblhau'r dataamrywiaeth a chynhwysiant pan fyddwch yn gwneud cais am y rôl hon, oherwydd gallwn sicrhau ein bod yn annog cymysgedd amrywiol o ymgeiswyr i wneud cais. Diolch yn fawr iawn.

**Cyfle Cyfartal**

Mae UCU yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys â chymwysterau addas heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol, neu feichiogrwydd a mamolaeth.

I gyflwyno'ch cais ar gyfer y cyfle cyffrous hwn i fod yn **Swyddog Cymru**, cliciwch ar ‘Apply’ nawr



  • Wrexham, Wales, United Kingdom National Trust Full time

    Senior Visitor Experience Officer - Wrexham, United Kingdom - National Trust Description We have an exciting opportunity to join the Visitor Experience team at Chirk Castle in the newly created Northeast Wales portfolio. Alongside an enthusiastic and experienced team of staff and volunteers, you will deliver high-quality, memorable experiences for our...