Cyfrifydd y Trysorlys

2 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Ynglŷn â'r Gwasanaeth**
Mae'r swydd hon wedi'i lleoli o fewn tîm Cyfalaf, Corfforaethol a Rheoli'r Trysorlys adran Cyfrifeg y gwasanaeth Cyllid.

Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Nhîm y Trysorlys ac mae’n gyfrifol am reoli trafodion bancio, buddsoddi a benthyca’r cyngor a’i berfformiad adrodd.
**Ynglŷn â’r swydd**
Bydd yr ymgeisydd yn gyfrifol am drafodion gwerth uchel sy’n gysylltiedig â gweithgareddau buddsoddi a benthyca’r Cyngor. Bydd yr ymgeisydd yn defnyddio systemau meddalwedd amrywiol i gefnogi rhagolygon llif arian parod, adrodd a chofnodi trafodion a gwaith cysoni o fewn y system ariannol SAP. Bydd yn darparu gwaith rheoli a chyfrifo ariannol ar gyfer offer ariannol yn unol â safonau cyfrifo. Bydd yn datblygu Strategaethau’r Trysorlys, yn adrodd ar berfformiad ac yn rhoi cyngor a chefnogaeth i ddiwallu canlyniadau’r Cyngor. Bydd yn gweithio gyda phartneriaid allanol i sicrhau bod ein gweithgareddau’n cael eu gwneud yn unol â’r safonau proffesiynol uchaf ac o fewn rheolyddion penodol yn y maes sensitif hwn.
**Yr Hyn Rydym yn ei Ddisgwyl Gennych Chi**
Mae’r rôl hefyd yn gofyn am ddangos lefel perfformiad gyda chywirdeb a chydymffurfio â gweithdrefnau a bydd yn cynnwys cefnogi aelodau eraill o’r gwasanaeth a gwella gwasanaethau a phrosiectau. Byddwch yn gyfforddus yn defnyddio amrywiaeth eang o systemau meddalwedd a bydd gennych brofiad o weithio mewn amgylchedd ariannol Rheoli Trysorlys i ddiwallu amcanion cwsmeriaid. Byddwch yn gyfforddus yn ymdrin â llawer iawn o drafodion o werth ariannol uchel, ac yn meddu ar ymwybyddiaeth o economeg a marchnadoedd ariannol a’u heffaith ar endidau.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn destun gwiriadau Safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

**Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein **gwefan**:
**Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- **
- **Canllaw ar Wneud Cais**:

- **Ymgeisio am swyddi gyda ni**:

- **Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol**

**Gwybodaeth Ychwanegol:

- **
- **Siarter Cyflogeion**:

- **Recriwtio Cyn-droseddwyr**:

- **Hysbysiad Preifatrwydd**

Job Reference: RES01237


  • Cyfrifydd

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r swydd hon yn rhan o’r Is-adran Cyfrifeg o fewn Cyllid. Mae gan yr is-adran Cyfrifeg gyfrifyddion cymwys a phrofiadol sy’n cynnig cyngor ariannol proffesiynol a chymorth cyfrifeg i’r holl gyfarwyddiaethau, ysgolion ac amrywiaeth o gyrff allanol a chydbwyllgorau ynglŷn â chyfrifyddu refeniw a chyfalaf. Bydd yr ymgeisydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...


  • Cardiff, United Kingdom Welsh National Opera Full time

    ** BI-LINGUAL TEXT - PLEASE SCROLL DOWN FOR ENGLISH ** **Partner Busnes Cyllid** Mae WNO yn rhannu grym opera a cherddoriaeth glasurol fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn lle creadigol ac ysbrydoledig i weithio ynddo ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu ein blaenoriaethau strategol i...