Rheolwr Cynhwysiant

1 month ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau i'r swydd Rheolwr Cynhwysiant o fewn ei Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau. Dyma gyfle arbennig i ymgartrefu mewn Awdurdod sydd â hanes llwyddiannus o wneud gwahaniaeth a pherfformio’n rhagorol. Mae gan y Gyfarwyddiaeth ystod eang o ddyletswyddau a chyfrifoldebau. Ei phrif rôl yw darparu cyfleoedd i bawb ym Mro Morgannwg ar gyfer addysg o safon.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Cyflog: Soulbury EIP 13 - 16 a hyd at 3 phwynt OPW yn ymwneud â pherfformiad (£52,860 - £56,831+OPW) y flwyddyn

Oriau Gwaith: 37 awr Patrwm Gweithio: O ddydd Llun i ddydd Gwener Prif Fan Gwaith: Swyddfeydd Dinesig gyda threfniadau gweithio hybrid fel y bo'n briodol.

**Amdanat ti**
Bydd gofyn i chi:

- Feddu ar brofiad helaeth o weithio gydag ysgolion, plant, pobl ifanc a’u teuluoedd a’u cefnogi. Mae gallu i ymateb i anghenion dysgwyr agored i niwed sydd angen cymorth er mwyn ymgysylltu â dysgu yn hanfodol.
- Gwybodaeth fanwl am godi presenoldeb a lleihau gwaharddiadau mewn ysgolion, gydag ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gref o ddogfennaeth a deddfwriaeth allweddol. Mae'r gallu i ddarparu hyfforddiant a chynghori ysgolion yn y meysydd hyn ynghyd â'r gallu i gydlynu cefnogaeth i blant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu'n ddewisol yn y cartref (ADdC), gan gael mynediad at diwtora y tu allan i’r ysgol ac ymwneud â pherfformiad plant a chyflogaeth yn ganolog i'r rôl.
- Ymwybyddiaeth gref o amddiffyn plant ac asesu risg.
- Gallu negodi a chydgysylltu ag unigolion, ysgolion ac asiantaethau allweddol.
- Safon gyffredinol ardderchog o addysg a sgiliau cyfathrebu cysylltiedig.

Er mwyn ymgymryd â'r rôl hon, bydd angen sgiliau rhyngbersonol ardderchog a lefel uchel o wydnwch. Ceir rhagor o fanylion perthnasol i’r rôl yn y disgrifiad swydd a’r fanyleb person amgaeedig.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Er bod hon yn swydd barhaol gyda'n gwasanaeth Safonau a Darpariaeth, byddem yn agored i geisiadau gan staff ysgol neu yn wir gydweithwyr o sector perthnasol ar sail secondiad. O fewn y cyd-destun hwn byddem yn ystyried **secondiad hyd 31/8/24** yn y lle cyntaf. Mae gennym hefyd ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr sydd â phrofiad helaeth o weithio i godi presenoldeb mewn ysgolion a lleihau gwaharddiadau.

Oes angen gwiriad GDG? Oes

Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person atodedig am ragor o wybodaeth.

Job Reference: LS00207



  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Ynglŷn â'r rôl** Ôl-gyfeirnod (i'w ddefnyddio ar ffurflen gais): Manylion Cyflog: TMS ynghyd â Lwfans AAA Oriau / Oriau Wythnosol: Llawn Amser Parhaol / Dros Dro: Secondiad - Medi 2024 i Ebrill 2025 - Gweithio dan Secondiad fel Rheolwr Sylfaen Adnoddau Anghenion Cymhleth yn Jenner Park Primary - Arwain, datblygu a rheoli Canolfan Ragoriaeth Bro...