Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmer

6 months ago


Denbigh, United Kingdom Grwp Cynefin Full time

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.

Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder.

Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a brwdfrydig i ymuno â ni. Mae hwn yn gyfle cyffrous ir person cywir a rhywun syn ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Fel aelod or Tîm Cyswllt Cynefin, byddwch yn darparu gwasanaeth rheng flaen o ansawdd uchel ar draws amrywiol gyfryngau cyfeillgar ir cwsmer fel bod Grŵp Cynefin yn rhagori. Byddwch yn gweithio fel rhan o Dîm syn canolbwyntio ar y cwsmer i gyflawni dangosyddion perfformiad allweddol. Byddwch ag agwedd ei gyflawni heddiw gyda meddylfryd gweithredu yn syth.

Rydym yn chwilio am rywun sydd âr un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein tenantiaid yn greiddiol yng ngwaith y Gymdeithas a dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.

Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysyllwch ag Ann Vaughan Jones, Rheolwr Gwasanaeth Cwsmer, ar 0300 111 2122.

**Y Pecyn**

**Math o gytundeb**:Dros gyfnod mamolaeth (12 mis)

**Cyflog**: £24,522 y flwyddyn pro rata

**Oriau**: 35 ayw

**Gwyliau**:30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal âr gwyliau banc statudol ar cyfnod rhwng y Nadolig ar Flwyddyn Newydd pro rata

**Teithio**:Defnyddiwr Car Achlysurol

**Pensiwn**:Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

**Disgrifiadau Swyddi**

DS Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmer 0524.pdf

JD Customer Service Advisor 0524.pdf

**Buddiannau**

Pecyn Buddion.pdf

Benefits Package.pdf

**Datblygiad Personol**:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol ach bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol ich corff aelodaeth, byddwn yn talu un or rhain bob blwyddyn ich helpu i aros yn gysylltiedig âr wybodaeth ar addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau in holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chin gweithio gyda ni byddwn nin buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd

**Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol**

Canllawiau cwblhau cais.pdf

Cyfweliadau: 16.07.24

**Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)**

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.