Uwch Gynllunydd Cadwraeth a Dylunio

3 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gadw cofrestr pridiannau tir lleol sy'n cofnodi rhwymedigaethau sy'n effeithio ar eiddo yn eu hardal weinyddol. Mae Cofrestrfa Tir EM yn gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol i safoni a mudo gwybodaeth cofrestru pridiannau tir lleol i un lle hygyrch. Fel rhan o'r prosiect hwn mae nifer o ddynodiadau treftadaeth sy'n cael eu hystyried yn bridiant dir lleol. Allbwn allweddol y rôl hon yw sicrhau bod yr holl asedau treftadaeth perthnasol sy'n cael eu hystyried yn bridiant dir lleol e.e.. Adeiladau Rhestredig, Cwrtil Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a chyfarwyddiadau Erthygl 4, o fewn ffin weinyddol y Cyngor, yn cael eu safoni ac mewn fformat ar gyfer mudo yn ôl yr angen.

Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol gweithgar ac ymroddedig sydd â chefndir cryf a diddordeb mewn materion cynllunio Treftadaeth/Cadwraeth i gyflawni'r rôl hon dros dro a hyblyg.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion gyflog: Gradd 9 - £39,186 - £43,421 (pro-rata) Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 3 diwrnod yr wythnos (Hyd at 20/12/2024) Prif Lleoliad Gwaith: Swyddfa’r Dociau Rheswm Dros Dro: Gwaith prosiect
**Amdanat ti**

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Gwybodaeth ymarferol o’r system gynllunio.
- Gwybodaeth am adeiladau hanesyddol, cadwraeth a materion dylunio trefol.
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog.
- Sgiliau negodi ardderchog.
- Y gallu i weithio i derfynau amser a gytunir ac o dan bwysau.
- Sgiliau trefnu da.
- Y gallu i ymdrin â llwyth gwaith eang ac amrywiol yn ymwneud ag adeiladau hanesyddol, ardaloedd cadwraeth a materion dylunio trefol.
- Addysg i lefel gradd mewn disgyblaeth berthnasol.
- Ymrwymiad i lefelau uchel o wasanaeth i gwsmeriaid.
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm.
- Ymrwymiad i sicrhau canlyniadau safonol o’r broses rheoli datblygu.
- Y gallu i ymdrin â phobl o dan amgylchiadau sy’n anodd o bosibl
- Y gallu i yrru/teithio ledled y Fro neu rhwng lleoliadau fel sy’n briodol. Yn llythrennog yn gyfrifiadurol ac yn gallu defnyddio cyfrifiadur i baratoi llythyrau ac adroddiadau.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: Dim Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Ian Robinson 01446 704777 Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.

Job Reference: PLA00031


  • Uwch Swyddog Tgch

    4 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Tîm Gweinyddion a Storio TGCh yn dymuno penodi Uwch Swyddog TGCh sy'n hynod frwdfrydig, yn drefnus, ac yn rhagweithiol. Dyma gyfle i fod yn rhan o dîm prysur a deinamig sy'n ymfalchïo yn y gwaith o gefnogi seilwaith TG y cyngor. **Ynglŷn â'r rôl** Pay Details: Grade 8, £32,909 - £36,298 Hours of Work / Working Pattern: 5 days /...