We have other current jobs related to this field that you can find below

  • Hyfforddwr: Bricwaith

    3 months ago


    Neath, United Kingdom NPTC Group of Colleges Full time

    Mae cyfle cyffrous i ymuno â'n hadran Adeiladwaith wedi codi lle byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno addysg i weithwyr Adeiladwith y dyfodol.** **Gall y rôl hon hefyd roi profiad gwerth chweil i chi os ydych yn dymuno dilyn gyrfa addysgu yn ddiweddarach.*** **Cyflog**:Graddfa 5, Pwyntiau 25-28, £27,986 - £30,138 y...

  • Nyrs Feithrinfa

    2 months ago


    Neath, United Kingdom NPTC Group of Colleges Full time

    Ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r hyn sydd ei angen i fod yn rhan o'n tîm Meithrinfa arobryn ym Meithrinfa Ddydd Lilliput? Ydych? Gwych - daliwch ati i ddarllen felly am fwy o wybodaeth. **Ynglyn â ni**:Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys...


  • Neath, United Kingdom NPTC Group of Colleges Full time

    Ydych chi'n chwilio am eich cam cyntaf mewn gyrfa? Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda phlant? Mae hwn yn gyfle gwych i ennill cyflogaeth, profiad a chymwysterau yn ein Meithrinfa arobryn yng Ngrwp Colegau NPTC. **Cyflog**:£10,709 y flwyddyn neu'n amodol ar ddarpariaethau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (os yn berthnasol). **Contract**:Amser...


  • Neath, United Kingdom NPTC Group of Colleges Full time

    Ydych chi'n chwilio am eich cam cyntaf mewn gyrfa? Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda phlant? Mae hwn yn gyfle gwych i ennill cyflogaeth, profiad a chymwysterau yn ein Meithrinfa arobryn yng Ngrwp Colegau NPTC. **Ynglyn â'r rôl**:Cynorthwyo ag amryw ddyletswyddau gan gynnwys lles a gofal y plant a chynllunio gweithgareddau o fewn y Feithrinfa...


  • Neath, United Kingdom NPTC Group of Colleges Full time

    Ydych chi'n chwilio am eich cam cyntaf mewn gyrfa? Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda phlant? Mae hwn yn gyfle gwych i ennill cyflogaeth, profiad a chymwysterau yn ein Meithrinfa arobryn yng Ngrwp Colegau NPTC. **Ynglyn â'r rôl**:Cynorthwyo ag amryw ddyletswyddau gan gynnwys lles a gofal y plant a chynllunio gweithgareddau o fewn y Feithrinfa...


  • Neath, United Kingdom NPTC Group of Colleges Full time

    Ydych chi'n chwilio am eich cam cyntaf mewn gyrfa? Oes gennych chi ddiddordeb mewn Gweinyddiaeth Busnes? Mae hwn yn gyfle gwych i ennill cyflogaeth, profiad a chymwysterau yn ein hadrannau Adnoddau Dynol a Datblygu Staff yng Ngrwp Colegau NPTC. **Cyflog**:£9,280 y flwyddyn neu'n amodol ar ddarpariaethau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (os yn berthnasol). 37...


  • Neath, United Kingdom NPTC Group of Colleges Full time

    Ydych chi'n chwilio am eich cam cyntaf mewn gyrfa? Oes gennych chi ddiddordeb mewn Gweinyddiaeth Busnes? Mae hwn yn gyfle gwych i ennill cyflogaeth, profiad a chymwysterau yn ein hadrannau Adnoddau Dynol a Datblygu Staff yng Ngrwp Colegau NPTC. **Cyflog**:£12,348 y flwyddyn neu'n amodol ar ddarpariaethau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (os yn...


  • Neath, United Kingdom NPTC Group of Colleges Full time

    Ydych chi'n chwilio am eich cam cyntaf mewn gyrfa? Oes gennych chi ddiddordeb mewn Gweinyddiaeth Busnes? Mae hwn yn gyfle gwych i ennill cyflogaeth, profiad a chymwysterau yn adran Systemau Gwybodaeth Busnes Grwp Colegau NPTC. **Cyflog**:£9,280 y flwyddyn neu'n amodol ar ddarpariaethau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (os yn berthnasol). 37 awr yr wythnos...

Cynorthwyydd Cangen: Coleg Cymraeg Cenedlaethol

3 months ago


Neath, United Kingdom NPTC Group of Colleges Full time

A oes gennych yr hyn sydd ei angen i ddatblygu a hyrwyddo darpariaethau cwricwlwm dwyieithog a chyfrwng Cymraeg? Os felly, mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn ein hadran dwyieithrwydd yng Ngrwp Colegau NPTC.

Graddfa 2, Pwyntiau 14-16, £21,030 - £22,410 y flwyddyn.

37 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).

**Contract**: Amser llawn, cyfnod penodol tan 31 Ionawr 2025.

**Ynglyn â chi**:Dylai'r ymgeisydd delfrydol feddu ar gymhwyster lefel 3 (Safon Uwch neu gyfatebol). Rhaid i ymgeiswyr hefyd feddu ar gymhwyster lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg (TGAU neu gyfatebol) a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 3. Mae profiad o weithio mewn amgylchedd addysgol cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog (gan gynnwys casglu a dadansoddi data, astudiaethau achos ac enghreifftiau o arfer da) yn hanfodol. Rhaid i ymgeiswyr fod yn rhugl yn y Gymraeg.

**Ynglyn â ni**:Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

**Pam y dylech chi weithio i ni?**

Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Mae'r rhain yn cael eu gweinyddu trwy'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu'r Cynllun Pensiwn Athrawon ac yn darparu pensiynau sy'n cael eu cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros £21 i'ch pensiwn, am bob £100 y byddwch yn ei ennill.

Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn (yn codi i 32 yn dilyn 5 mlynedd o wasanaeth), a gan ein bod yn cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 41 diwrnod o wyliau blynyddol. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith

Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae'n bodloni anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth Cymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant ymroddedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.

Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.

Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.

Ar ben hyn oll, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint i ni o fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.

Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig