Tiwtor I E.s.o.l

3 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni** Canolfan Ddysgu’r Fro**

Mae’r rhaglen hon, sy’n cael ei ariannu drwy fasnachfraint, yn cynnig amrediad o Sgiliau Hanfodol: Gweithdai Saesneg a Mathemateg ar sawl lefel o Fynediad 1 i Lefel 2. Caiff dysgwyr eu cynnal i lwyddo mewn amrywiaeth o gymwysterau gan gynnwys Agored Cymru a City and Guilds. Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnig gweithdai E.S.O.L (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) lle gall dysgwyr weithio tuag at gymwysterau Arholiad Coleg y Drindod. Lleolir y rhaglen yn bennaf yng Nghanolfan Ddysgu’r Fro o fewn Llyfrgell y Barri CF63 4RW
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion am gyflog: Graddfa Gweithwyr Proffesiynol Ieuenctid a Chymuned JNC Pwynt 14

Oriau Gwaith: Sesiynau rhan amser amrywiol fel bo angen. Mae sesiynau fel arfer yn 2.5 awr o hyd ac yn digwydd yn y boreau, prynhawniau neu gyda’r nos. Bydd y cyrsiau’n parhau am gyfnod rhwng 3 a 30 wythnos a gall gynnwys gweithdai undydd a chyrsiau blasu.

Prif Waith: Amrywiol
**Amdanat ti**
Bydd angen:

- addysg at lefel uchel gyda sgiliau da mewn llythrennedd a rhifedd.
- gwybodaeth drylwyr ac adnabyddiaeth dda o’ch pwnc neu faes.
- cymhwyster addysgu perthnasol neu wrthi’n cwblhau cymhwyster addysgu (Hanfodol)
- profiad o addysgu neu hyfforddi oedolion (dymunol).
- Cymhwyster Ymarferwr perthnasol (dymunol ar gyfer ymgeiswyr sy’n bwriadu dysgu ESOL neu Sgiliau Sylfaenol).
- dealltwriaeth o asesu neu brofiad o addysgu rhaglenni sy’n cael eu hachredu.
- hyder wrth addysgu gan ddefnyddio technoleg ddigidol
- y gallu i addysgu’n Hybrid (wyneb yn wyneb ac ar-lein) lle’n berthnasol, neu yn fodlon hyfforddi ymhellach.
- sgiliau cyfathrebu ardderchog, a’r gallu i ddarparu gwersi arloesol a chreadigol sy’n herio ac yn diddori’r dysgwyr.
- dealltwriaeth o anghenion dysgwyr sy’n oedolion, ac empathi at ddysgwyr bregus.
- parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant pellach.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: Dim

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.

Job Reference: LS00141