Uwch Borthor

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm Marchnad Caerdydd, yn gweithio o fewn Adran Datblygu Economaidd / Ystadau Strategol Cyngor Caerdydd.

Mae Marchnad Caerdydd yn adeilad rhestredig Gradd II* yng nghanol y ddinas sy'n denu tua 3,000,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'r farchnad gyda’r gwaith arfaethedig i adnewyddu’r eiddo - gwaith sydd werth £6.5 miliwn. Byddwch yn rhan allweddol o reoli'r tenantiaid/cyhoedd yn ystod y gwaith.
**Am Y Swydd**
Mae'r rôl hon yn cynnwys y canlynol, ymysg pethau eraill:

- Arwain y tîm o borthorion yn eu dyletswyddau beunyddiol.
- Delio â thenantiaid y farchnad
- Delio ag aelodau'r cyhoedd
- Sicrhau bod y farchnad yn cael ei glanhau i safon uchel
- Sicrhau Iechyd a Diogelwch yn y farchnad
- Trefnu rota wythnosol i'r tîm gan sicrhau bod gweithwyr wrth gefn ar gael yn ystod cyfnodau gwyliau/salwch
- Adrodd yn wythnosol i reolwr y farchnad ar unrhyw broblemau
- Cymryd rhan mewn adolygiadau DPP, hyfforddiant porthorion, ac ati
- Agor a chau adeilad y farchnad

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am rywun sydd â'r nodweddion canlynol:

- Cyfathrebwr da
- Sgiliau arwain cryf
- Ar gael i weithio patrymau gweithio hyblyg/goramser

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Patrymau Shifft

Dydd Llun i ddydd Sadwrn (5 diwrnod yr wythnos) ac eithrio unrhyw oramser

6am - 2pm / 8.00am - 4.00pm / 9.30am - 5.30pm

6 x Dydd Sul y flwyddyn ar gyfer 'Dydd Sul Rhydd' i alluogi gwaith cynnal a chadw/glanhau tenantiaid.

Rhai penwythnosau ym mis Rhagfyr pan fydd y farchnad ar agor 7 diwrnod yr wythnos

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: ECO00521