Prentis Crefft

2 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Cyngor Caerdydd yw'r Awdurdod Lleol mwyaf yng Nghymru sy'n gyfrifol am gyflawni atgyweiriadau i dros 13,000 o eiddo. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio o fewn ein gwasanaeth ac yn datblygu ystod o sgiliau yn y gweithle, gwybodaeth a phrofiad yn ein Huned Gwasanaeth Cynnal a Chadw Ymatebol ac Adran Gwagleoedd, yn ogystal â datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r gwaith a chyfrifoldebau sydd ynghlwm â Llywodraeth Leol yng Nghaerdydd. Mae Cyngor Caerdydd yn falch o fod yn sefydliad Rhywedd-Amrywiol ac yn annog ceisiadau ar gyfer y rôl hon gan ddynion a menywod.

Rydym yn chwilio am Brentis Peintio ac Addurno a fydd yn cael ei gyflogi ar gontract cyfnod penodol o 3 blynedd ac a fydd yn ymgymryd a chymhwyster Prentisiaeth lefel 3 mewn Adeiladu - Paentio ac Addurno.

**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm i ddarparu gwasanaeth dosbarth cyntaf. Fel Prentis Peintio ac Addurno, byddwn yn eich helpu a’ch annog i ddatblygu sgiliau a fydd yn eich cynorthwyo yn eich gyrfa yn y dyfodol. Cewch eich annog i gyflawni amrywiaeth eang o waith. Cewch eich goruchwylio, eich hyfforddi wrth weithio a’ch cefnogi gan Crefftwr profiadol yn y tîm a fydd yn eich helpu i ddatblygu.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Fel Prentis Peintio ac Addurno, byddwch yn datblygu’r sgiliau i gynnig cymorth effeithlon mewn modd cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

Dylech fod yn barod i ddysgu a bod yn gartrefol mewn amgylchedd dysgu. Byddwch yn mynychu coleg y Barri 1 diwrnod yr wythnos i gwblhau’r cymhwyster perthnasol yn eich crefft a bydd disgwyl i chi gwblhau hwn o fewn yr amserlenni priodol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Am ragor o wybodaeth, gweler y Fanyleb Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person ynghlwm ac os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, ffoniwch Marie Doble 07583158155 neu Samantha Pika ar 07976948648.

Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03203