Swyddog Gweinyddol
5 months ago
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.
Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder.
Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol i ymuno ân tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous ir person cywir; rhywun syn ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.
Fel aelod or Tîm Cartrefi Fforddiadwy byddwch yn rhoi cefnogaeth weinyddol ir Tîm Hwylusydd Tai Gwledig gan weithio'n effeithiol i ddarparu gwasanaeth rhagorol yn unol â pholisïau, gweithdrefnau, safonau, targedau a Safonau Gofal Cwsmer Grŵp Cynefin.
Rydym yn chwilio am rywun sydd âr un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw a dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.
Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Catrin Vaughan Roberts, Rheolwr Cartrefi Fforddiadwy, ar 0300 111 2122.
**Y Pecyn**
**Math o gytundeb**:Parhaol
**Cyflog**:£23,579 y flwyddyn pro rata (maen bosibl y bydd y cyflog yn cynyddu o 01.04.24)
**Lleoliad**: Penygroes
**Oriau gweithio**: 7 awr yr wythnos (yn ddelfrydol ar ddydd Mercher ond posibilrwydd i fod yn hyblyg)
**Gwyliau**:30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal âr gwyliau banc statudol ar cyfnod rhwng y Nadolig ar Flwyddyn Newydd (pro rata)
**Teithio**:Defnyddiwr Car Achlysurol
**Pensiwn**:Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
**Disgrifiad Swydd**
Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra, 'rydym yn gweithio'n galed i oresgyn y broblem cyn gynted â phosib.
**Buddiannau**
**Pecyn Buddion.pdf**
**Datblygiad Personol**:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol ach bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol ich corff aelodaeth, byddwn yn talu un or rhain bob blwyddyn ich helpu i aros yn gysylltiedig âr wybodaeth ar addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau in holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chin gweithio gyda ni byddwn nin buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd
**Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol**
Canllawiau cwblhau cais
Cyfweliadau: 16.05.24
**Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)**
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.