Gweithredwr Draeniau
2 months ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Cynnal Gweithrediadau Priffyrdd ar Gyrrwr Peiriant Draenio
**Am Y Swydd**
Prif swyddogaeth y rôl rheng flaen hon yw cadw’r briffordd yn rhydd rhag dŵr wyneb drwy wneud gwaith a gynllunnir ac ymatebol i lanhau gylïau a sicrhau eu bod yn cael eu gwagio a bod cysylltiadau’n rhydd o grynodiadau llaid, gwastraff neu rwystrau.
Byddwch yn delio ag amrywiaeth o broblemau draenio sy’n gysylltiedig â draenio tir, carthffosydd a gorsafoedd pwmpio.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
- Rhifedd a Llythrennedd i lefel TGAU neu gyfwerth.
- Rhaid cael profiad o ddelio gyda’r cyhoedd yn gyffredinol a sgiliau cyfathrebu da.
- Trwydded yrru ddilys lawn a Thrwydded Categori C HGV.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Am ragor o wybodaeth neu i gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â
Jay Manson - Arweinydd Tîm Adran ar 02920785236.
Mae hon yn swydd barhaol, Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PLA00350