Cydlynydd a Thai Arbenigol

4 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Nghyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau ar gyfer Cydlynydd a Thai Arbenigol i weithio o fewn yr Uned Dyraniadau ac Ailgartrefu.

**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am adolygu a datblygu gweithdrefnau newydd yn ymwneud â chymhwyso a dyrannu Gofal Ychwanegol, Pobl Hŷn, a Thai Arbenigol.

Bydd yr adolygiad yn cynnwys gwella'r llwybrau tai i Bobl Hŷn a Phobl ag anghenion arbenigol drwy ddatblygu llwybr llety canolog i holl ddarpariaeth tai 'arbenigol' i'w hwyluso drwy'r Tîm Datrysiadau Ailgartrefu.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos gwybodaeth o ddeddfwriaeth dai a phrofiad o weithio mewn amgylchedd yn ymwneud â thai.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gydlynu'r adolygiad o'r llwybrau tai presennol ar gyfer Pobl Hŷn a Phobl ag Anghenion Arbenigol a nodi meysydd i'w gwella wrth ddarparu gwasanaethau drwy gydweithio gyda phob parti sydd â diddordeb i ddatblygu proses a gweithdrefnau newydd.

Bydd y gallu i weithio fel rhan o dîm i sicrhau canlyniad dymunol a chyfleu amcanion a threfniadau newydd yn effeithiol i ystod eang o bartïon â diddordeb yn hanfodol i'r rôl hon.

Bydd ymgeiswyr hefyd yn meddu ar sgiliau dadansoddol a dehongli rhagorol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r gwasanaeth wedi gweld nifer o newidiadau yn ddiweddar, a bydd yn rhaid i’r unigolyn cywir allu croesawu a chyflawni newid yn gyflym i ateb gofynion y gwasanaeth.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02889



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yn ymgorffori dwy adran Gwasanaethau Oedolion a Thai a Chymunedau ac mae'n cynnwys llawer o wasanaethau rheng flaen pwysig y cyngor. Mae'r tîm Gwella Gwasanaethau a ffurfiwyd yn ddiweddar yn ymroddedig i ddatblygu arferion gwaith o fewn y gyfarwyddiaeth ac yn rhoi cymorth i'w timau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Dyma beth mae defnyddwyr y gwasanaeth sy'n defnyddio ein rhaglenni yn ei ddweud '_Mae defnyddio'r dulliau rydw i wedi'u dysgu ar y Rhaglen Magu Plant wedi cael effaith fawr arnon ni. Mae cartref y teulu yn llawer tawelach ac yn fwy positif. Does ‘na ddim llawer o ddadleuon na gweiddi... Dwi wedi cael trafferthion yn y...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Bryn y Deryn yn Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) CA4 ar gyfer 90 o ddisgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol ac iechyd meddwl.Rydym ni'n ceisio penodi i rôl Arbenigwr Ymyriadau/ Uwch Gynorthwy-ydd Addysgu**Am Y Swydd**Gweithio dan gyfarwyddwyd y staff addysgu/Cydlynydd ADY/uwch aelodau o staff, o fewn system...

  • Uwch Swyddog Hyb

    5 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ymuno â'n Timau Hybiau’r Dwyrain (Hyb Llaneirwg, Hyb Llanrhymni, Hyb Partneriaeth Tredelerch & Hyb Powerhouse Llanedern) Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gefnogi cwsmeriaid sy’n defnyddio Hybiau a Llyfrgelloedd. Bydd y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **YNGLŶN Â'R GWASANAETH** Mae gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol sy'n darparu llety, cyngor a chymorth i bobl sengl agored i niwed sy'n wynebu digartrefedd ac sydd ag ystod o anghenion cymorth. Mae hyn yn cael ei ddarparu trwy nifer o safleoedd ledled y ddinas. Trwy weithio ar y cyd â gwasanaethau tai a MDT...

  • Senior Lecturer

    2 months ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full time

    Disgrifiad Swydd Uwch Ddarlithydd – Cydlynydd Lleoliadau Clinigol Job Description Senior Lecturer - Interprofessional Clinical Placement Co-Job descriptionCardiff School of Sport and Health Sciences is a recognised centre of excellence in the UK and has established a national and international reputation for the quality of its academic and research work in...

  • Senior Lecturer

    4 weeks ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full time

    Disgrifiad Swydd Uwch Ddarlithydd – Cydlynydd Lleoliadau Clinigol Job Description Senior Lecturer - Interprofessional Clinical Placement Co-Job descriptionCardiff School of Sport and Health Sciences is a recognised centre of excellence in the UK and has established a national and international reputation for the quality of its academic and research work in...