Cynorthwy-ydd Casglu
5 months ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ddau unigolyn ymroddedig weithio o fewn Is-adran y Dreth Gyngor i helpu i weinyddu a chasglu'r tâl sy'n helpu'r Cyngor i ariannu ei wasanaethau.
Mae'r Is-adran yn gyfrifol am amrywiaeth eang o wahanol dasgau gan gynnwys cynnal cronfa ddata o dros 160,000 o dalwyr y dreth gyngor, gan sicrhau bod biliau cywir yn cael eu cynhyrchu a'u cyflwyno ynghyd â chymhwyso unrhyw ostyngiadau perthnasol i gyfrifon cwsmeriaid.
**Am Y Swydd**
Bydd deiliaid y swyddi yn gyfrifol am ddiweddaru'r system gyfrifiadurol ar-lein i sicrhau bod cofnodion y Dreth Gyngor yn gywir ac yn gyfredol yn ogystal ag ymdrin ag ymholiadau ysgrifenedig a thros y ffôn gan gwsmeriaid.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Dylai ymgeiswyr llwyddiannus fod yn chwaraewyr tîm gyda gwerthfawrogiad a dealltwriaeth dda o dechnoleg gwybodaeth.
Dylai ymgeiswyr hefyd feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a dylent fod yn ymrwymedig i ddatblygiad parhaus.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Bydd y rolau hyn yn cynnwys cyfuniad o weithio gartref ac yn Neuadd y Ddinas lle mae'r swyddi wedi'u lleoli'n swyddogol
Er bod y rolau hyn yn heriol, mae ein polisïau gweithio’n hyblyg yn sicrhau cydbwysedd bywyd-gwaith iach. Mae’r swydd ar agor i unigolion sydd eisiau patrymau gwaith hyblyg, yn amodol ar fodloni anghenion ein cleientiaid a dangos ystyriaeth i drefniadau gwaith aelodau presennol y tîm.
Mae’r swyddi hyn yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: RES01094
-
Cynorthwy-ydd Casglu
4 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae swydd ar gael gyda’r tîm Ardrethi Busnes yn Is-adran Refeniw’r Gwasanaethau Corfforaethol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am helpu i filio a chasglu ardrethi busnes o tua 13,000 o fusnesau yn y ddinas a phrif ddiben y swydd fydd i ddiweddaru a chynnal gwybodaeth am gyfrifon yn gywir. **Beth Rydym Ei...
-
Uwch Gynorthwy-ydd Casglu
5 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae’r swydd hon yn Is-adran y Dreth Gyngor. Mae’r Is-adran hon yn gyfrifol am gasglu dros £200 miliwn y flwyddyn i helpu’r Cyngor i ariannu ei wasanaethau. Rydym yn ymdrechu’n barhaus i gynnal a gwella ein cyfraddau casglu sy’n helpu i sicrhau’r grym gwario mwyaf posib i’r Cyngor. Mae’r is-adran hon hefyd yn gyfrifol am...
-
Cynorthwy-ydd Ardrethi
5 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae swydd wag wedi codi yn y Tîm Ardrethi Busnes. Mae Cyngor Caerdydd yn casglu mwy na £170m yn flynyddol mewn ardrethi busnes gan tua 13,000 o fusnesau yng Nghaerdydd. Mae'r tîm hefyd yn casglu ardoll Ardal Gwella Busnes gan fusnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghanol y Ddinas a'r cyffiniau. **Am Y Swydd** Mae hon yn swydd uwch yn y Tîm...
-
Cynorthwy-ydd Ymchwil a Datblygu Polisi
5 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae tîm Comisiynu Caerdydd yn rhan o Oedolion, Tai a Chymunedau. Mae'r Tîm yn gweithio ar y cyd â'r sector gofal cymdeithasol ar draws y ddinas, y sector statudol a’r trydydd sector. Mae gan Dîm Comisiynu Cyngor Caerdydd rôl allweddol wrth gynllunio, rheoli datblygu a sicrhau'r gwasanaethau sy'n cefnogi oedolion ag anghenion Gofal...