Gweinyddwr Busnes

3 weeks ago


Bridgend, United Kingdom Oaklands College Full time

College
- Bridgend College
- Location
- Bridgend, Bridgend
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Full Time
- Salary
- £21,029 - £21,052
- Posted
- 20th June 2023
- Start Date
- As soon as possible
- Expires
- 3rd July 2023 11:59 PM
- Contract Type
- Permanent
- Start Date
- As soon as possible
- Job ID
- 1347568
- Job Reference
- REQ00867

Gweinyddwr Busnes

Llawn Amser (37 awr yr wythnos) Parhaol

Graddfa gyflog 2: £21,029 - £21,052 y flwyddyn

Mae gennym ni gyfle newydd a chyffrous i ymuno â'n tîm Engage Training

Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu delio'n effeithlon â negeseuon e-bost mewn ac allan sy'n ymwneud â'n cyrsiau hyfforddi rhan amser. Byddwch hefyd yn gyfrifol am ddarparu cymorth gweinyddol cyffredinol ar gyfer pob maes ariannu rhan amser a gweithgareddau masnachol.

Fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob ymholiad, dylech feddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i ymdrin ag ymholiadau personol a dros y ffôn. Yn ogystal, byddwch yn cynorthwyo’r gwasanaeth Cwrdd a Chyfarch ar gyfer cyrsiau hyfforddi, a allai olygu teithio i gampysau eraill. Byddwch hefyd yn gyfrifol am weinyddu'r holl faterion sy'n ymwneud ag ymholiadau ar gyfer cyrsiau hyfforddi rhan amser, gan gynnwys hwyluso archebion, dyfynbrisiau, archebion prynu, archebion adnoddau EBS, a chofnodi taliadau ariannol.

Bydd gennych o leiaf 5 TGAU Gradd 'C' neu uwch neu gyfwerth a rhaid iddynt gynnwys Saesneg a Mathemateg. Gyda sgiliau trefnu a TG rhagorol, bydd gennych y gallu a'r hyder i weithio gyda systemau gweinyddol.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym yn ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o gefndiroedd a chymunedau gwahanol, ac o oedrannau gwahanol.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweliad i unrhyw un sydd ag anabledd os yw eu cais yn bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a byddwn yn eu hystyried ar sail eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol drwy gydol y broses recriwtio.

Sylwch y gallai fod angen cyfweliad neu asesiad ail gam.