Cydlynydd Pod Cynghori

3 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Rydym yn rhan o Dîm Cyflogadwyedd sy'n rhan o Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau Cyngor Bro Morgannwg. Mae'r Cydlynydd Pod Cynghori’n ddatblygiad newydd a chyffrous a ariennir gan Lywodraeth y DU, a bydd y rôl yn canolbwyntio ar ddatblygu'r agenda cymorth cyflogadwyedd.
Gan fod yn rhan o'r tîm cyflogadwyedd, byddwch yn gweithio'n agos gyda'r cydlynwyr eraill i sicrhau bod yr agendâu cyflogadwyedd ehangach yn cael eu darparu'n effeithiol fel un gwasanaeth ac yn cysylltu'n agos â Chynlluniau Cyflogadwyedd a Sgiliau Llywodraeth Cymru.

Bydd y fenter newydd hon yn cynnwys gweithio gydag amrywiol adrannau'r Cyngor a phartneriaid eraill i sefydlu siop, sy'n ategu'r gwasanaethau presennol ac sy'n agored i'r cyhoedd, gan gynnig llu o wasanaethau cymorth a chynghori. Gallai gwasanaethau cymorth gynnwys cymorth ariannol, help gyda llenwi ffurflenni digidol i fagu hyder ac ailgyfeirio i ddarpariaeth gyflogadwyedd neu ddarpariaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned arall. Gweithio gyda phartneriaid i roi cyngor yn y
Pod ar fudd-daliadau, tai, dyledion a sefydliadau iechyd meddwl. Cysylltu pobl leol â chyfleoedd sgiliau, hyfforddiant, swyddi a gyrfaoedd.

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion Cyflog: Graddfa 8 SP26 - 30 £32,909 - £36,298
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos
Prif Weithle: Y Pod Cynghori (lleoliad arfaethedig - y Barri)
Rheswm Dros Dro: 31 Mawrth 2025 (yn dilyn cyfnod prawf llwyddiannus).

**Disgrifiad**:
Cyflawni, cydlynu a monitro gwaith Pod Gwybodaeth prysur, gan ddarparu gwasanaethau cynghori a gwybodaeth o ansawdd uchel i gwsmeriaid. Helpu i ddatblygu agenda'r Rhaglen Ffyniant Gyffredin. Datblygu gwasanaethau newydd, gwasanaethau
arloesol a chymorth ac adrodd ar gynnydd o ran perfformiad a rheoli hawliadau ariannol.

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- Hanes o gyflawni gyda phrofiad helaeth mewn maes cyflogadwyedd neu gynghori.
- Profiad o ddatblygu prosiect/rhaglen a/neu siop.
- Unigolyn llawn cymhelliant a hyblyg gyda’r gallu profedig i weithio ar ei ben ei hun ac yn rhan o dîm
- Gallu arwain a chefnogi tîm o ymgynghorwyr
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, gyda'r gallu i weithio gydag ystod eang o bartneriaid ac i feithrin perthynas â nhw.
- Cydgysylltu ag amrywiaeth eang o sefydliadau eraill yn lleol gan gynnwys Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cymru'n Gweithio/Gyrfa Cymru, Darparwyr Hyfforddiant a darparwyr Cymorth Iechyd Meddwl eraill ac ati.
- Profiad o weithio gyda chwsmeriaid sy’n wynebu tlodi a/neu rwystrau i gyflogaeth
- Gallu deall dulliau monitro a gwerthuso, gallu sefydlu systemau, gallu dadansoddi data a chyflwyno hyn mewn adroddiadau a fformatau hawdd eu deall.
- Byddwch yn helpu i recriwtio ac adeiladu tîm o ymgynghorwyr a fydd yn gweithio gyda chwsmeriaid ac i geisio ehangu'r gwaith drwy allgymorth i ardaloedd a chartrefi eraill ym Mro Morgannwg.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Oes angen gwiriad gan y GDG? Oes
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Mark Davies, 01446 709269

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: LS00212