Gweithredwr Safle Cyffredinol

4 weeks ago


Anglesey, United Kingdom SuperTemps Full time

Mae Supertemps yn chwilio am ymgeisydd cymwys, sy’n siaradwr Cymraeg rhugl, ar gyfer swydd Gweithredwr Safle Cyffredinol a fydd yn gweithio ar draws nifer o leoliadau ar Ynys Môn, yng Ngogledd Cymru.

Bydd dyletswyddau’n cynnwys:

- cyfarch a chwrdd â chwsmeriaid
- gwasanaethau cwsmer o safon uchel
- cynorthwyo gyda llwythi trymion
- sortio ailgylchu a gwastraff
- cyflawni gweithrediadau darnio a bwndlo
- cwblhau gwiriadau dyddiol a diweddaru’r gwaith papur priodol

Hoffem weld eich CV os mae’r canlynol yn berthnasol i chi:

- ethig waith dda
- yn rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar
- sgiliau gwasanaeth cwsmer da, gan ei bod yn swydd sy’n gweithio wyneb yn wyneb â chwsmeriaid
- sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid da gan eich bod yn delio â'r cyhoedd
- bodlon gweithio yn yr awyr agored
- mae rhywfaint o brofiad o weithrediadau rheoli gwastraff yn ddymunol iawn
- eich cludiant eich hun, oherwydd lleoliadau rhai safleoedd

Mae hon yn swydd dros-dro ar drefniant fesul wythnos. Mae’r oriau gweithio fel arfer o 9:15yb - 3:15yh, o ddydd Mawrth i ddydd Gwener, ac o 9:15yb - 4:45yh ar ddydd Sadwrn (yn ddibynnol ar anghenion y safle). Mae’r gyfradd tâl yn £10.98 yr awr yn ogystal â thâl gwyliau cronedig.

Os yw hon yn ymddangos fel y swydd i chi, gwnewch gais heddiw
- This is a job advert for a Site Operative based on Anglesey, due to the nature of the role the ability to speak Welsh fluently is required