Cydlynydd Marac

4 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r Gwasanaeth Diogelu Oedolion a'r Uned Cynhwysiant Cymdeithasol wedi'u lleoli yn y gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Oedolion, Tai a Chymunedau. Mae’r gwasanaethau’n gweithio mewn partneriaeth â'r Heddlu, y gwasanaeth Iechyd, y gwasanaeth Prawf ac asiantaethau eraill i ddiogelu dinasyddion Caerdydd yn effeithiol a chefnogi pobl i fyw eu bywydau heb gamdriniaeth neu esgeulustod neu'r risg ohono.

Mae ymchwil yn dangos y bydd bron i chwarter yr holl oedolion yn profi cam-drin domestig yn ystod eu hoes. Mae'r Gynhadledd Amlasiantaethol Asesu Risg (CAAR) yn gyfarfod amlasiantaethol, sy'n cyflwyno prosesau i ddiogelu'r rhai sy'n profi cam-drin domestig neu mewn perygl o hynny yn y categorïau risg uchaf.

Fel awdurdod lleol, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi pobl i fyw heb gamdriniaeth neu esgeulustod neu'r risg ohono a chanolbwyntio ein gwaith ar sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'r bobl rydym yn gweithio gyda nhw. Gyda moeseg gref o waith amlasiantaethol, rydym yn cynnig cyfle i ddefnyddio rhwydweithio a chydweithio i helpu pobl i sicrhau newid effeithiol i'w hamgylchiadau gan hyrwyddo diogelwch a lles.

Dyma gyfnod cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy'n datblygu ac sy'n hyrwyddo arfer gorau mewn amgylchedd cefnogol ond heriol. Rydym yn rheoli ac yn cynnal llwyth gwaith amrywiol ac yn gweithio gyda rhai o’r unigolion a’r grwpiau sydd mwyaf mewn perygl yn ein cymdeithas.

Mae Caerdydd yn lle gwych i fyw a gweithio. Mae Caerdydd yn ymfalchïo yn ei statws fel prifddinas a dinas fwyaf Cymru. Mae ganddi gymeriad unigryw ag ansawdd bywyd rhagorol ac enw da yn rhyngwladol am ei hamrywiaeth eang o atyniadau diwylliannol, chwaraeon a theuluol. Yn ddiweddar, enwebwyd Caerdydd y ‘drydedd ddinas orau’ yn Ewrop i fyw ynddi mewn arolwg gan yr Undeb Ewropeaidd ac mae’n amlwg pam. Ai nawr yw’r amser iawn i chi weithio ym mhrifddinas Cymru gyda'i chymunedau bywiog ac amrywiol a’i hystod o brofiadau gwaith gwahanol? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
**Am Y Swydd**
Swydd Cydlynydd CAAR Gradd 6 yw hon (37 awr yr wythnos), sydd ar gael yn y Gwasanaeth Diogelu Oedolion a’r Uned Cynhwysiant Cymdeithasol yng nghyfarwyddiaeth Gwasanaethau Oedolion, Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd.

Mae'r swydd yn gyfrifol am gydlynu'r broses CAAR yn unol â gofynion lleol a chenedlaethol ac mae'n gweithio ar draws partneriaethau sefydledig i ddiogelu’r rhai â’r risg uchaf yn effeithiol.

**Byddwn yn cynnig y canlynol i chi**:

- Gwasanaeth sy'n gwerthfawrogi proffesiynoldeb ac sy'n cefnogi unigolion i ddilyn arferion gorau.
- Cyfle i gymryd rhan mewn gweithdrefnau gyda chanlyniadau amlwg i wella lles a diogelwch y rhai y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt.
- Cyfle i gymryd rhan mewn gwaith diddorol, cyflym a heriol sy'n gofyn am weithredu â meddwl agored a dealltwriaeth o gydraddoldeb.
- Amgylchedd gwaith sy'n gefnogol yn gyfannol ac yn annog datblygiad gyda chyfle i brofi a chymryd rhan mewn sawl agwedd ar y maes.
- Dull rhagweithiol o sicrhau ansawdd o fewn y gwasanaeth sy'n ceisio hyrwyddo arfer gorau wrth gyflawni ein rôl o ddydd i ddydd.
- Mynediad at galendr hyfforddi eang ac amrywiol a sesiynau datblygu rheolaidd a rhannu gwybodaeth er mwyn cadw’n ymwybodol o ddatblygiadau ymarferol.
- Mae ein systemau a'n technoleg yn galluogi ac yn hyrwyddo gweithio ystwyth a hyblyg ac mae gan Gyngor Caerdydd amrywiaeth o bolisïau cefnogol ar gyfer ei weithwyr.
- Cyfle i gefnogi unigolion i fyw bywydau heb gamdriniaeth neu esgeulustod neu'r risg ohono, cyflawni canlyniadau personol cadarnhaol a hyrwyddo lles unigolion.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
- Ymrwymiad i Ddiogelu dinasyddion Caerdydd.
- Brwdfrydedd ac angerdd dros wneud gwahaniaeth i fywydau pobl sydd ag angen gofal a chymorth.
- Dealltwriaeth o bwysigrwydd cydraddoldeb a chynwysoldeb o ran lles pobl.
- Sail gwerthoedd cryf ac ymrwymiad i hyrwyddo a diogelu hawliau unigolyn a allai fod yn profi neu mewn perygl o gael eu cam-drin.
- Ymrwymiad i waith amlasiantaethol ac i weithio mewn partneriaeth ar draws gwasanaethau a sefydliadau.
- Dealltwriaeth o bwysigrwydd dilyn canllawiau gweithdrefnol a chywirdeb a chynhyrchiant er mwyn sicrhau canlyniadau i ddinasyddion Caerdydd.
- Parodrwydd i ddysgu a datblygu eich gwybodaeth a'ch ymarfer eich hun ac i gymryd rhan mewn amgylchedd dysgu cefnogol.
- Ymwybyddiaeth o yrwyr deddfwriaethol perthnasol i ddiogelu pobl sydd mewn perygl o gam-drin domestig.
- Gallu gweithio dan bwysau a blaenoriaethu gwaith pan fydd sefyllfaoedd yn codi sy'n gofyn am sylw ar unwaith.
- Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.

Gwiriwch y Disgrifiad Swydd a’r Manyleb Person am feini prawf hanfodol a dymunol eraill.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae diogelu oedolion ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor a'n nod yw cefnogi plant ac oedolion i sicrhau eu bod mor ddioge