Arweinydd Pwnc Daearyddiaeth
2 weeks ago
College
- Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
- Location
- Y Barri, Vale of Glamorgan
- Contract Type
- Temporary
- Hours
- Full Time
- Contract Length
- Cyfnod Mamolaeth
- Salary
- M2-UPS3 +CAD2d
- Posted
- 20th June 2023
- Start Date
- To be confirmed
- Expires
- 3rd July 2023 09:00 AM
- Contract Type
- Temporary
- Start Date
- To be confirmed
- Job ID
- 1347654
- Job Reference
- APDaear
Swydd: Arweinydd Pwnc Daearyddiaeth (Cyfnod Mamolaeth)
Pwynt/ Graddfa Cyflog: M2-UPS3 + CAD2d
Cytundeb: Cyfnod Mamolaeth
Oriau: Llawn amser
Hysbyseb: 20fed o Fehefin 2023
Dyddiad Cau: 3ydd o Orffennaf 2023
Swydd i ddechrau: Hydref 2023
Dewch i ymweld
Mae'r Llywodraethwyr am benodi unigolyn cymwys a thalentog i ymuno â staff Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg.
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ei lleoli yn nhref y Barri ac yn gwasanaethu Sir Bro Morgannwg. Cyflawnwyd gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn 2021 ac o ganlyniad mae’r cyfleusterau sydd ar gael i addysgu plant a phobl ifanc Y Fro drwy gyfrwng y Gymraeg yn fodern ac yn addas er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol.
Edrychwn am athro ac arweinydd rhagorol, sydd yn dangos angerdd tuag at y pwnc a chyrhaeddiad ein disgyblion. Yn ddelfrydol, bydd angen bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dysgu TGAU a Lefel A ac â phrofiad o waith maes.
Arwyddair yr ysgol yw ‘Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd’. Ein bwriad yw i adeiladu yn bellach ar lwyddiannau yr ysgol hyd yma ac i sicrhau fod pawb sy’n dysgu ac yn gweithio yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn derbyn y cyfleoedd gorau i gyrraedd pen eu mynydd personol.
Adran Ddaearyddiaeth
Rydym yn adran lwyddiannus sy’n ymfalchïo yn ein canlyniadau TGAU a Safon Uwch. Mae gennym ddisgwyliadau uchel o’r disgyblion ac yn herio pob unigolyn i lwyddo yn y pwnc. Mae’r pwnc yn hynod boblogaidd fel opsiwn TGAU a Safon Uwch. Mae yna dri athro cyfeillgar yn yr adran ac rydym yn rhan o gyfadran Dyniaethau cefnogol iawn o’n gilydd. Rydym yn cynllunio gwersi rhyngweithiol sy’n annog brwdfrydedd a diddordeb yn y pwnc, gyda phob aelod yn rhannu eu hadnoddau dysgu er mwyn cynnal safonau uchel yr adran. Cynigir ystod o weithgareddau allgyrsiol, gan gynnwys taith CA3 Arfordiro, taith TGAU a Lefel A
Daearyddiaeth i Wlad yr Iâ ynghyd â theithiau gwaith maes amrywiol. Mae gan bob aelod o’n hadran ystafell ddosbarth ei hun gyda theledu rhyngweithiol.