Cynorthwy-ydd Cytiau CŴn

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Ydych chi’n dwlu ar gŵn? Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Gynorthwy-ydd Cytiau Cŵn yng Nghartref Cŵn Caerdydd. Fel rhan o wasanaeth rheng flaen brysur iawn sy’n delio â thua 700 o gŵn bob blwyddyn, bydd disgwyl i chi gynorthwyo’r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau yn ymwneud â chŵn coll ac annog perchnogaeth gyfrifol ar gŵn. Bydd diwrnodau gwaith yn amrywio a byddant yn cynnwys penwythnosau.
**Am Y Swydd**
Y tasgau craidd yw gofalu am gŵn a'u trin mewn amgylchedd cytiau cŵn gan gynnwys eu glanhau, eu bwydo a'u hymarfer, gofalu am eu hiechyd a lles, asesu eu hymddygiad a’u paru i’w hailgartrefu. Byddwch yn delio ag ymholiadau a chwynion gan y cyhoedd ynghylch powndio cŵn strae ac yna eu dychwelyd at eu perchnogion neu eu hailgartrefu.

Bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys diweddaru’r wefan, gan ddefnyddio systemau TG y Cyngor, cadw cofnodion cyfredol, microsglodynnu, glanhau a diheintio cytiau’r cŵn a chynnal bioddiogelwch.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Gallu bodloni'r cymwyseddau ymddygiadol sy'n ofynnol gan staff Cyngor Caerdydd;
- Rhoi Ein Cwsmeriaid yn Gyntaf
- Cyflawni pethau
- Cymryd cyfrifoldeb personol
- Ceisio deall eraill a’u trin gyda pharch
- Addysg i safon TGAU neu gymhwyster cyfatebol
- Profiad o drin a gofalu am gŵn mewn amgylchedd cytiau cŵn
- Profiad o weithio gyda chwsmeriaid mewn lleoliad rheng flaen ac ymdrin â sefyllfaoedd anodd
- Y gallu i weithio fel unigolyn ac mewn tîm
- Rhoi a chofnodi meddyginiaethau ar gyfer cŵn
- Profiad o asesu ymddygiad cŵn

Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal y Cyngor. Gonest Cydwybodol ac Awydd wedi ei hunangyfeirio i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel ar gyfer gwelliant a datblygiad parhaus.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r swydd hon yn llawn amser, ond mae'n addas i'w rhannu ar raniad 16 awr / 21 awr. Nodwch yn eich cais pa oriau rydych yn gwneud cais amdanynt (e.e. llawn amser, rhan amser - 16 awr neu ran amser - 21 awr).

Mae Tâl Atodol y Cyflog Byw’n berthnasol i’r cyflog hwn sy’n dod â’r gyfradd tâl sylfaenol i £12.00 yr awr. Bydd y tâl atodol yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Ceidw Cyngor Caerdydd yr hawl i wneud unrhyw newidiadau i dâl atodol y Cyflog Byw neu ei ddileu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PLA00366