Cynorthwy-ydd Cyllid

6 months ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae'r swydd hon yn Nhîm Cyllid y Gwasanaethau Cymdogaeth yn Adran Gymorth y Gyfarwyddiaeth Amgylchedd a Thai. Prif bwrpas y swydd yw darparu gwasanaeth cyfrifeg proffesiynol i'r Gyfarwyddiaeth.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Gradd 3 PCG 4 £22460 Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener Prif Weithle: Depo’r Alpau Disgrifiad: - Cynorthwyo i baratoi monitro ariannol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdogaeth. - Cofnodi a monitro hawliadau incwm gan gynnwys codi biliau dyledwr ac ICC. - Prosesu incwm amrywiol. - Yn gyfrifol am fewnbynnu taflenni amser i gynorthwyo gyda pharatoi cyflogau staff technegol. - Yn gyfrifol am fewnbynnu anfonebau gan ddefnyddio Oracle Fusion a Tranman. - Codi gorchmynion â llaw ac ar gyfrifiadur gan ddefnyddio I-gaffael. - Prosesu biliau ffonau symudol. - Helpu gyda chyfrif incwm meysydd parcio. - Cynorthwyo i fancio arian parod a sieciau a dderbyniwyd gan yr adran Gwasanaethau Cymdogaeth yn gywir ac yn amserol
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch: - Sgiliau rhifedd gwych gyda chefndir ariannol da - Yn gallu gweithio’n fanwl gywir. - Gallu gweithio a chyfrannu’n effeithiol fel rhan o dîm bach. - 5 TGAU (Gradd A i C) gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. - Sgiliau rhyngbersonol da. - Gallu cysylltu â staff adrannol wrth gynhyrchu gwybodaeth ofynnol yn amserol. - Cefndir TG da yn enwedig Microsoft Office.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Job Reference: EHS00473