Darlithydd Diwydiannau Creadigol

4 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Cyf: 12318**

**Teitl y Swydd**:Darlithydd Diwydiannau Creadigol**

**Contract**:Llawn Amser, Parhaol**

**Cyflog: £24,051 - £47,333 y flwyddyn (yn ddibynnol ar brofiad)**

**Oriau**: 37**

**Lleoliad**:Caerdydd**

Mae swydd wag gyffrous ar gael ar gyfer (Teitl swydd wag) yn yr adran (Adran) yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli ar Gampws Canol y Ddinas.

**Mae'r cyfrifoldebau yn cynnwys**:

- Ymgymryd â'r holl waith addysgegol fel addysgu yn y dosbarth (sy’n cynnwys gweithdai ayyb.), gwaith tiwtorial sy’n gysylltiedig ag allgymorth, cyrsiau preswyl ac agored a dysgu o bell a lleoliadau myfyrwyr;
- Ymgymryd â’r holl waith sefydliadol a gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r uchod, paratoi a marcio;
- Ymgymryd â chyfrifoldebau lles myfyrwyr a chwnsela academaidd neu anacademaidd priodol;
- Addysgu set sgiliau a fydd yn canolbwyntio ar ddarpariaeth Ffotograffiaeth Ddigidol.
- Cynnal a chymryd rhan yn y broses arfarnu staff a hyfforddiant mewn swydd yn seiliedig ar asesiad o anghenion unigol neu gorfforaethol;
- Cymryd rhan mewn marchnata, h.y. adnabod gofynion defnyddwyr, cynllunio, datblygu a gwerthuso cyrsiau a deunyddiau cyrsiau, cyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus;
- Cynorthwyo i fonitro ac olrhain cynnydd myfyrwyr a’u hawl i ddarpariaeth cymorth dysgu;
- Cyflawni dyletswyddau eraill sy'n rhesymol ofynnol ohonoch, yn gymesur â'ch graddfa; yn eich lleoliad gwaith cychwynnol neu leoliadau eraill yn nalgylch y Coleg;
- Gweinyddu a rheoli sefydliadau neu raglenni addysg a hyfforddiant (neu agweddau arwyddocaol ar unrhyw un o'r rhain neu israniadau ohonynt);
- Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol, ond byddai’n ddymunol eu cael ar gyfer y swydd hon

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 26/04/2024 am 12:00pm.**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:12016** **Teitl y Swydd**:Darlithydd Ffasiwn yn y Diwydiannau Creadigol** **Contract: Cytundeb Cyfnod Penodol, 1 flwyddyn - Llawn Amser** **Oriau: 37** **Cyflog: £22,583 - £44,444 pro rata** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Darlithydd Ffasiwn yn y Diwydiannau Creadigol o fewn adran Greadigol Coleg Caerdydd...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Ofcom Cymru Ofcom Wales Full time

    **Rheolwr y Cyfryngau Cymdeithasol Cymraeg****Ofcom Cymru**Llawn amser gyda threfniadau gweithio hybrid ar gaelRôl barhaolMae Ofcom yn chwilio am gyfathrebwr Cymraeg hyderus i arwain ei gwaith cyfryngau cymdeithasol ar gyfer cynulleidfaoedd sy'n siarad Cymraeg.Mae'r corff eisoes yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg, ochr yn ochr â'i sianeli...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Hyfforddai hon gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae ein Tîm Hybiau’r De yn gobeithio cyflogi 2 **Hyfforddai Corfforaethol i weithio ar draws Hybiau’r De**: **Hyb Grangetown - **Plas Havelock, Grangetown, Caerdydd CF11 6PE. **Hyb STAR** **-** Heol Muirton, Y...