Cyfrannwr Addysg a Digwyddiadau
3 weeks ago
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - Cyfrannwr Addysg a Digwyddiadau (Achlysurol).
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn awyddus i benodi Cyfrannwr Addysg a Digwyddiadau achlysurol i gyflwyno Rhaglen Addysgiadol Castell Henllys i grwpiau ysgol ar ymweliad, yn ogystal â’r rhaglen ddigwyddiadau a gweithgareddau flynyddol i’r cyhoedd.
**Mae'r rôl yn addas ar gyfer unigolyn a all**:
- ddehongli’r safle, y Parc Cenedlaethol a’r ardal gyfagos ar gyfer mwynhad yr holl ymwelwyr, gan gynnwys y cyhoedd a grwpiau diddordeb arbennig.
- sicrhau bod canlyniadau dysgu a mwynhad ar gyfer yr holl grwpiau ysgol ar ymweliad a’r cyhoedd yn cael eu cyflwyno at safon uchel.
- cyflwyno ac arwain gweithgareddau’r rhaglen ysgolion a digwyddiadau mewn modd proffesiynol a diogel.
- sicrhau bod y safle'n cael ei gyflwyno at lefel uchel i ymwelwyr.
- cyfrannu syniadau, drwy drafodaethau tîm, i ddatblygu’r rhaglen weithgareddau a digwyddiadau.
**Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar**:
- brofiad o arwain a chyflwyno gweithgareddau.
- profiad o weithio gyda phlant.
- profiad o waith theatr, drama neu wisgoedd.
- y gallu i siarad Cymraeg ar lefelau B2-C1 (Fframwaith Cymhwysedd ar gael i’w lawrlwytho).
- ymagwedd frwdfrydig dros weithio gyda grwpiau ysgol a grwpiau o blant.
- y gallu i gyfathrebu’n hawdd gyda chydweithwyr a’r cyhoedd.
Swydd ddisgrifiad llawn ar gael i’w lawrlwytho.
Mae'r swydd hon yn amodol ar archwiliad DBS Manwl.
Cyflog
- Hyd at £10.79 yr awr.
Rydym wedi ymrwymo i gynnig cyfle cyfartal i bob aelod o staff ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gredoau a phriodas a phartneriaeth sifil.
Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu, ac felly’n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ac sy’n dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
**Dyddiad Cau**: 16/02/2023
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar.