Technegydd Trydanol/electroneg

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Cyf**:11971**

**Teitl y Swydd**:Technegydd Trydanol/Electroneg**

**Contract: Parhaol, Tymor ysgol yn unig**

**CYFLOG: £23,152 - £23,930 pro rata**

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Technegydd Trydanol/Electroneg o fewn yr adran Beirianneg, Awyrofod a Modurol yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli yn Canal Parade.

Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:

- Chwarae rhan weithredol yn yr holl sesiynau ymarferol sydd wedi’u trefnu o fewn oriau gwaith y contract a darparu cefnogaeth i staff gydag adnoddau a chyfarpar i alluogi’r sesiynau hyn i redeg yn ddidrafferth.
- Cynnal gweithdrefnau er mwyn gweithredu cyfleusterau’r Gyfadran yn ddiogel, effeithlon ac effeithiol.
- Cynorthwyo staff darlithio gyda pharatoi deunyddiau a chyfarpar ar gyfer gweithgareddau myfyrwyr.
- Sicrhau bod cyflenwadau digonol o ddeunyddiau, cyfarpar ac offer ar gael pan fo’u hangen.
- Datgysylltu gwaith myfyrwyr ac adfer deunyddiau er mwyn eu defnyddio yn y dyfodol.
- Cadw cofnod rheolaidd o offer, cyfarpar etc. a chynorthwyo staff darlithio i sicrhau diogelwch cyffredinol o fewn yr adran.
- Cynorthwyo gyda gwirio stoc a diweddaru cofnodion stoc yn flynyddol.
- Cynnal archwiliadau cynnal a chadw cyffredinol cyson.
- Cynorthwyo gyda sicrhau amgylchedd gweithio diogel ym mhob ardal ddynodedig. Mae’r ddyletswydd hon yn cynnwys profi dyfeisiau cludadwy (PAT), rheoliadau COSHH ac unrhyw reoliadau fydd y Coleg angen eu cyflwyno yn y dyfodol ynghyd â gweithdrefnau cofnodi cysylltiedig.
- Cynorthwyo staff darlithio gyda pharatoi deunyddiau addysgu cwrs, datblygu a chyflwyno'r cwricwlwm fel aelod o’r tîm. Cynorthwyo gyda’r datblygiadau cyffredinol.
- Nid yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ond byddent yn ddymunol ar gyfer y rôl hon.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 29/03/2024 yr 12:00pm.**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun hyderus o ran anabledd.


  • Arweinydd Adran

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...