Pennaeth Digidol

3 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni** Rydym yn chwilio am Bennaeth Digidol arloesol a brwdfrydig i arwain ein hadrannau TGCh, Gwella Busnes a Chysylltiadau Cwsmeriaid wrth gyflawni ein strategaeth ddigidol a'n hagenda drawsnewid.**
Mae hon yn rôl newydd i'r Awdurdod a fydd yn adrodd yn uniongyrchol i'r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol. Byddwch yn datblygu ac yn gweithredu'r strategaeth ddigidol a'r cynllun trawsnewid ar gyfer yr awdurdod lleol. Bydd hyn yn cynnwys meithrin a chynnal perthnasau cryf â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys aelodau etholedig, ysgolion a sefydliadau partner. Bydd y rôl hon yn un allweddol yn y sefydliad,
yn gweithio ar draws yr holl gyfarwyddiaethau i ddarparu cyngor, arweiniad a chymorth ar weithgareddau perthnasol i ddigidol i sicrhau y cyflawnir y rhain yn llwyddiannus, wrth sicrhau perthnasoedd cynhyrchiol rhwng gwahanol timau arbenigol sydd wedi’u halinio â nodau trosfwaol y Cyngor

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Bydd angen CV a llythyr eglurhaol ar eich cais. Cofiwch sicrhau bod eich llythyr eglurhaol yn nodi’r ffordd yr ydych yn bodloni’r meini prawf ym manyleb y person. Gellir dod o hyd i hon ym mhecyn y swydd.

Job Reference: RES00350