Gweithredydd Adeiladu

2 months ago

Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**

Mae'r swyddi uchod yn bodoli o fewn Grŵp Gweithrediadau Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth Bro Morgannwg ac yn rhan o dîm Cynnal a Chadw Priffyrdd prysur.

Mae'r Tîm Cynnal a Chadw Priffyrdd yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl asedau draenio a fabwysiadwyd yn cael eu harolygu a’u glanhau'n rheolaidd, felly rydym am recriwtio gyrrwr â chymwysterau a phrofiad addas o fewn y tîm i ymgymryd â'r gwaith hwn gan ddefnyddio cerbyd JCB yn benodol ar gyfer clirio gafael dŵr wyneb y briffordd, sianeli agored, ymylon meddal, ac ambell ddeunydd wedi'i dipio'n anghyfreithlon.

Bydd gofyn i'r gyrrwr gysylltu'n benodol â chydweithwyr mewnol, aelodau'r cyhoedd a Chynghorwyr i sicrhau cyfathrebu da, gan sicrhau bod rhwydwaith dŵr wyneb y briffordd yn cael ei lanhau'n drylwyr ac yn llifo'n rhydd, gydag unrhyw ddiffygion yn cael eu nodi ar gyfer rhagor o waith yn cael ei gofnodi ar ddyfeisiau llaw i weithredu ymhellach.

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion Tâl: Gradd E (5) £24702 - £26421

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr / 52 wythnos

Prif Weithle: Depo'r Alpau a gwahanol safleoedd o gwmpas Bro Morgannwg

**Disgrifiad**:
Mae gan Gyngor Bro Morgannwg tua 21,000 o gylïau dŵr wyneb yr ydym yn gyfrifol am eu cynnal a bydd yn ofynnol yn bennaf i'r rôl weithredwr adeiladu fynychu'r safle bob dydd mewn peiriant JCB a sicrhau bod unrhyw allfeydd dŵr wyneb agored, arllwysfa agored, asedau sianel yn ddiogel, yn cael eu cynnal a'u chadw’n rheolaidd, ac yn rhydd o rwystrau.

Bydd gofyn hefyd i'r ymgeisydd weithio'n agos gyda gweithwyr eraill y Cyngor i ymgymryd â'r rôl hon a sicrhau bod gwiriadau cerbydau dyddiol yn cael eu cwblhau. Bydd yr ymgeisydd hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod arwyddion a rhwystrau Pennod 8 addas yn cael eu defnyddio wrth weithio ar y safle i sicrhau arferion gwaith diogel.

**Amdanat ti**

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o gynnal a chadw priffyrdd neu beirianneg priffyrdd.
- O leiaf 3 blynedd o brofiad gyrru cerbydau LGV (JCB yn hanfodol)
- Sgiliau cyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Agwedd ymarferol tuag at ddelio â chwynion.
- Hunan-gymhelliant a’r gallu i ysgogi a chyfathrebu’n effeithiol â staff ac aelodau o’r cyhoedd.
- Y gallu i weithio’n effeithiol ac effeithlon mewn amgylchedd prysur.
- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac fel aelod o dîm
- Yn ffit yn gorfforol ac yn gallu cyflawni'r holl dasgau â llaw.
- Y gallu i yrru / teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel y bo'n briodol

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Please see attached job description / person specification for further information.

Angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Nac oes

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Ffôn Symudol: 07395 832 133

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: EHS00516

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r swyddi uchod yn bodoli o fewn Grŵp Gweithrediadau Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth Bro Morgannwg ac yn rhan o dîm Cynnal a Chadw Priffyrdd prysur. Mae'r Tîm Cynnal a Chadw Priffyrdd yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl asedau draenio a fabwysiadwyd yn cael eu harolygu a’u glanhau'n rheolaidd, felly rydym am recriwtio gyrrwr...