Gweithiwr Cefnogi

2 weeks ago


Newtown, United Kingdom British Red Cross Full time

**Teitl y Swydd**:
**Gweithiwr Cefnogi**

**Lleoliad y Swydd**:
**Gogledd Powys**

**Cyflog**:
**£18,972 yn seiliedig ar 35 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am - 5pm)**

**Math o Gontract**:
**Tymor penodol tan fis Mawrth 2024**

Ydych chi erioed wedi ystyried beth sy'n digwydd i gleifion wedi iddynt adael ward ysbyty? Mae rhai pobl yn iawn ac yn cael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw. Gall eraill elwa o ychydig mwy o amser a chefnogaeth. Gall y gefnogaeth hon gynnwys casglu presgripsiynau, gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw fwyd yn y tŷ, tasgau tŷ ysgafn a gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod â phwy i gysylltu os bydd angen mwy o help - y gefnogaeth gyffredinol y byddech chi eisiau i'ch ffrindiau a'ch teulu ei brofi.

Dyna hanfod y swydd hon - helpu cleifion sydd wedi'u rhyddhau i reoli a lleihau'r risg o angen ymweliad arall â'r ysbyty.

Bydd eich treulio eich dyddiau yn siarad gydag a chefnogi cleifion a staff meddygol er mwyn sicrhau bod yr ysbyty'n rhedeg yn hwylus a gweld cleifion mor gyflym â phosib.

Bydd eich profiad yn caniatáu i bobl sydd wedi bod yn yr ysbyty gael eu hannibyniaeth. Bydd y bobl rydych chi'n eu cefnogi yn dod o bob math o gefndiroedd. Efallai y byddwch chi'n treulio eich bore'n cefnogi rhywun â Dementia i setlo yn ôl adref ar ôl aros yn yr ysbyty, ac yna yn y prynhawn efallai byddwch yn mynd â rhywun ag awtistiaeth i apwyntiad meddyg i ddilyn i fyny. Efallai byddwch yn gorffen eich diwrnod yn gollwng rhywfaint o fwydydd i rywun sy'n methu gadael y tŷ ar ôl llawdriniaeth. Bydd y swydd hon yn cael effaith enfawr ar ddefnyddwyr ein gwasanaeth.

Mae'n bwysig gwybod - nid yw’r rôl hol yn cynnwys gofal personol. Ni fyddwch yn gyfrifol am ymolchi neu lanhau ein cleientiaid.

**Bydd diwrnod ym mywyd Gweithiwr Cefnogi yn cynnwys**:

- Siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol am y cymorth sydd ei angen ar gleifion.
- Gyrru i leoliadau gwahanol gan gynnwys ysbyty, meddygfeydd, fferyllfeydd, siopau a chartrefi cleifion.
- Cynnig cymorth emosiynol ac ymarferol i bobl sy'n defnyddio ein gwasanaeth.
- Sicrhau bod ein systemau wedi'u diweddaru er mwyn gallu olrhain pa gymorth sydd wedi’i gynnig i gleifion.
- Helpu i asesu anghenion defnyddwyr ein gwasanaeth yn y dyfodol a helpu i ddatblygu cynlluniau cefnogi.

**I fod yn Weithiwr Cefnogi llwyddiannus, bydd angen arnoch chi**:

- Trwydded yrru a **mynediad at eich cerbyd eich hun**.
- Natur ofalgar, empathetig er mwyn gallu cynnig y cymorth gorau.
- Sgiliau TG da gan ein bod ni'n defnyddio meddalwedd i sicrhau bod ein gwasanaethau yn rhedeg yn esmwyth ac effeithlon.
- Dealltwriaeth o'r gwasanaethau y mae'r GIG yn eu darparu, er mwyn gallu cynnig y cyngor a'r arweiniad gorau i ddefnyddwyr ein gwasanaeth.

**Mewn cydnabyddiaeth am eich ymroddiad a'ch arbenigedd, byddwch chi'n cael**:

- **Cyflog** - Cyflog o £18,972 yn seiliedig ar 35 awr yr wythnos.
- **Gwyliau** - Byddwch chi'n cael 36 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc) a'r opsiwn i brynu 5 diwrnod ychwanegol o wyliau.
- **Cynllun pensiwn** - Rydym yn cynnig hyd at 6% o gyfraniad pensiwn.
- **Gweithio hyblyg** - Byddwn ni'n gwneud yr hyn a allwn ni i sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd sy'n addas i chi.
- **Cyfleoedd Dysgu a Datblygu** - Rydym yn un o elusennau mwyaf y DU ac mae gennym ystod eang o gyfleoedd gyrfa. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd cynhwysfawr i staff ddatblygu eu hunain.
- **Disgowntiau** - Bydd gennych fynediad at ddisgowntiau gwych drwy'r Cerdyn Disgownt Golau Glas a'n platfform buddion cyflogeion ein hunain.
- **Cefnogaeth** **Lles** - Lles staff yw'r flaenoriaeth bob amser. Bydd gennych fynediad at gymorth iechyd meddwl a llesiant.
- **Gweithio fel Tîm** - Byddwch chi'n gweithio fel rhan o dîm sy'n cefnogi ein cenhadaeth o helpu pobl mewn argyfwng.
- **Beicio i'r Gwaith** - Mae'r cynllun beicio i'r gwaith yn eich galluogi i logi beic.
- **Benthyciad tocyn tymor** - Rydym yn cynnig benthyciad di-dâl i brynu tocyn tymor ar gyfer teithio rhwng y cartref a'r gwaith.
- Yn Y Groes Goch Brydeinig, rydym yn ymfalchïo yn ein gweithlu amrywiol, ac yn sicrhau bod gennym amgylchedd cynhwysol ar gyfer ein holl staff a gwirfoddolwyr. Rydym yn parhau i ymrwymo i sicrhau bod ein timoedd yn gallu dod â'u hunaniaethau go iawn i'r gwaith heb risg neu ofn o wahaniaethu. Rydym yn gwneud hyn drwy adrodd data'n rheolaidd, a chefnogaeth fewnol gan ein Rhwydwaith Hil a Chydraddoldeb (REEN) mewnol, Rhwydwaith LGBT+, ein Rhwydwaith Anabledd a Llesiant (DAWN), Rhwydwaith Rhywedd, Rhwydwaith Gofalwyr a Rhwydwaith Ieuenctid._