Hyfforddwr Teithio Annibynnol

1 week ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r tîm yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth rheng flaen. Rydym yn darparu amrywiaeth o fentrau diogelwch ar y ffyrdd a theithio llesol i blant, pobl ifanc ac oedolion sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yng Nghaerdydd.

**Am Y Swydd**
Diben y swydd yw cynllunio, cefnogi a chyflwyno hyfforddiant teithio annibynnol i blant, pobl ifanc ac oedolion ag anghenion dysgu ychwanegol. Caiff yr hyfforddiant ei gyflwyno ar sail un i un yn gyffredinol, i geisio sicrhau bod yr hyfforddeion yn datblygu’r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnynt i deithio'n annibynnol i’r ysgol ac ohoni. Caiff yr hyfforddiant hefyd ei gyflwyno i grwpiau bach yn ystod y diwrnod ysgol.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn cynorthwyo'r Timau Diogelwch ar y Ffyrdd a Thrafnidiaeth Teithwyr gyda dyletswyddau gan gynnwys hapwiriadau, asesiadau llwybrau cerdded a Hyfforddiant i Yrwyr/Hebryngwyr; yn ogystal â chyflwyno mentrau Diogelwch ar y Ffyrdd gan gynnwys Hyfforddiant Diogelwch Bysus, Streetwise, Hyfforddiant Cerddwyr a Beiciau.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae diwrnodau gwaith yn amrywio’n dibynnu ar ba ddisgyblion sy'n cael eu hyfforddi a pha weithgareddau rydych wedi'u cynllunio’r diwrnod hwnnw. Isod mae 2 enghraifft o ddiwrnodau lle mae sesiynau hyfforddiant teithio grŵp ac un i un yn cael eu cynnal.

**Diwrnod 1**

7.10am - Cyrraedd tŷ disgybl 1.

7.15am - Dechrau’r hyfforddiant gyda'r disgybl.

(Cerdded i safle bws, dal bws i ganol y ddinas, newid bysus, cerdded o safle bws i'r ysgol)

8.20am - Cyrraedd yr ysgol.

8.30am - Disgybl yn dechrau'r ysgol. Hyfforddwr yn dal bws i ysgol arall.

9.30am - Sesiwn grŵp yn dechrau (9.30-12).

(Hyfforddiant oddi ar y safle gyda grŵp bach o ddisgyblion - cerdded a dal bysus)

*Egwyl ginio*

1pm - Amser gwaith gweinyddol.

2pm - Hyfforddwr yn dal y bws i ysgol arall.

2.45pm - Hyfforddwr yn cwrdd â disgybl 1 yn yr ysgol.

(Cerdded i safle bws, dal bws i'r ddinas, newid bysus a cherdded i gartref disgybl 1)

4.20pm - Gorffen y gwaith ar ôl diweddaru rhiant disgybl 1.

**Diwrnod 2**

8am - Cyrraedd tŷ disgybl 2.

8.05am - Dechrau’r hyfforddiant gyda'r disgybl.

(Cerdded i’r ysgol)

8.35am - Cyrraedd yr ysgol.

8.45am - Disgybl yn dechrau'r ysgol.

9am - Dechrau sesiwn grŵp yn yr un ysgol (9-12).

(Hyfforddiant oddi ar y safle gyda grŵp bach o ddisgyblion - cerdded a dal bysus)

*Egwyl ginio*

1pm - Amser gwaith gweinyddol.

3.20pm - Gorffen y gwaith ar ôl diweddaru rhiant disgybl 2.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Ar hyn o bryd rydym yn cynnig y cyfle i staff sydd wedi derbyn hyfforddiant llawn i weithio'n rhannol o gartref os yw hyn yn briodol, a bod gennych ardal ddiogel i weithio.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PLA00324



  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r tîm yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth rheng flaen. Rydym yn darparu amrywiaeth o fentrau diogelwch ar y ffyrdd a theithio llesol i blant, pobl ifanc ac oedolion sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yng Nghaerdydd.**Am Y Swydd**Diben y swydd yw cynllunio, cefnogi a chyflwyno hyfforddiant teithio annibynnol i blant, pobl ifanc ac...

  • Hyfforddwr

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm deinamig. **Am Y Swydd** Gan weithio yn adran Strategaeth Tai a Gwella Gwasanaeth y gwasanaeth Tai a Chymunedau, bydd swydd y Hyfforddwr yn gyfrifol am lunio hyfforddiant, cynorthwyo staff a chynnal gwiriadau ansawdd perthnasol. Byddwch yn gweithio’n annibynnol yn...

  • Hyfforddwr

    2 weeks ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â'n tîm deinamig.**Am Y Swydd**Gan weithio yn adran Strategaeth Tai a Gwella Gwasanaeth y gwasanaeth Tai a Chymunedau, bydd swydd y Mentor yn gyfrifol am lunio hyfforddiant, cynorthwyo staff a chynnal gwiriadau ansawdd perthnasol.Byddwch yn gweithio'n annibynnol yn cyflwyno cyrsiau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn gwasanaethau Cymorth Cynnar Tai a Chymunedau ar gyfer Hyfforddwr Datblygu’r Gweithlu. Swydd dros dro i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth yw hon, tan 31 Mawrth 2024, neu tan i ddeiliad parhaol y swydd ddychwelyd. Byddwch yn aelod o dîm Datblygu’r Gweithlu a’r Ganolfan Achrededig sefydledig sy’n...


  • Cardiff, United Kingdom The Electoral Commission Full time

    The Electoral Commission has an exciting opportunity for a **Support and Information Advisor / Cynghorydd Cymorth a Gwybodaeth **to join the team. Salary / Cyflog: £29,533 per annum **Job Type**: Full time permanent / Llawn amser, parhaol Location/Lleoliad: Cardiff / Caerdydd **Who we are**: The Electoral Commission is the independent body which...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Stroke Association Full time

    Region:- Wales- Salary:- Cyflog £18,277 y flwyddyn- Closing date:- Sunday 25 February 2024- Interview date:- Tuesday 5 March 2024- Job type:- Part time**Cyf: S11135 | Cydlynydd Cymorth Cymdeithas Strôc | Wedi'i leoli o gartref: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cymru**:**Bydd angen teithio helaeth fel rhan o'r rôl hon (gall gynnwys cyfarfodydd tîm neu...

  • Rheolwr Tîm

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd fel prifddinas Cymru yn cynnig nid yn unig y profiad o weithio mewn dinas fywiog a llwyddiannus ond hefyd mynediad hawdd i arfordir a chefn gwlad gwych rhanbarth De Cymru sydd â statws byd-eang. P'un a ydych yn dewis byw yn y ddinas neu o fewn pellter teithio byr, mae gennych ddigon o ddewis o ran llety, a llwybrau...

  • Rheolwr Tîm

    2 weeks ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Caerdydd fel prifddinas Cymru yn cynnig nid yn unig y profiad o weithio mewn dinas fywiog a llwyddiannus ond hefyd mynediad hawdd i arfordir a chefn gwlad gwych rhanbarth De Cymru sydd â statws byd-eang. P'un a ydych yn dewis byw yn y ddinas neu o fewn pellter teithio byr, mae gennych ddigon o ddewis o ran llety, a llwybrau...


  • Cardiff, United Kingdom TACT (The Adolescent & Childrens Trust) Full time

    Deputy Recruitment ManagerWhen registering to this job board you will be redirected to the online application form. Please ensure that this is completed in full in order that your application can be reviewed.Job Title: Deputy Recruitment ManagerSalary: £43,314 per annum (increasing to £48,126 in 18 months) + £750 Homeworking AllowanceHours & Contract: 35...


  • Cardiff, United Kingdom TACT Full time

    Job Title: Deputy Recruitment Manager Salary: £43,314 per annum (increasing to £48,126 in 18 months) + £750 Homeworking Allowance Hours & Contract: 35 Hours per week - Permanent Role Location: Homebased - Wales - travel required for recruitment activity across Wales and the Bristol areas.  As a ‘not for profit’ organisation, TACT puts the needs...