Mentor Pobl Ifanc

7 months ago


Conwy, United Kingdom Grwp Cynefin Full time

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Mae Gorwel yn uned fusnes o fewn Grŵp Cynefin syn darparu gwasanaethau o safon i:

- gefnogi pobl syn dioddef trais yn y cartref
- gefnogi pobl rhag colli ei cartref ac atal digartrefedd

Rydym yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd, rhai ohonynt yn denantiaid Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy a Sir Ddinbych.

Mae gennym staff profiadol a phroffesiynol yn gweithio o swyddfeydd ym Mhenygroes, Caernarfon, Llangefni, Pwllheli, Dinbych, Dolgellau a Blaenau Ffestiniog.

**YR HAFOD**

Prosiect tai â chefnogaeth ar gyfer pobl ifanc rhwng 16-25 oed ac sydd wedi ei leoli yn Ninbych ywr Hafod. Maen cynnwys 6 uned llety â chymorth a bydd yn cael ei staffio 24 awr y dydd. Maer staff yn darparu cefnogaeth ir defnyddiwr gwasanaeth yn eu cartref ac yn y gymuned. Yn ychwanegol, mae staff yn darparu gwasanaeth ar-alwad 24 awr.

Bydd yr holl ddefnyddwyr gwasanaeth yn byw yn Sir Ddinbych, yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, ac wedi eu hadnabod fel rhai sydd angen cymorth mewn nifer o feysydd i'w galluogi i reoli eu tenantiaeth yn annibynnol. Darperir cymorth am amser cyfyngedig, a disgwylir o fewn blwyddyn y bydd yr unigolion wedi cwblhau eu cynllun cymorth ac yn barod i symud ymlaen i fyw'n annibynnol yn y gymuned neu i brosiect gyda chefnogaeth lefel is yn y gymuned.

Nod y prosiect yw:

- Atal pobl ifanc rhag cyflwyno neu ail-gyflwyno eu hunain yn ddigartref neun ddigartref posib.
- Cefnogi pobl i gynnal tenantiaethau annibynnol yn y gymuned ac atal dibyniaeth ar gymorth neu wasanaethau eraill.
- Galluogi pobl i ddatblygu a chynyddu eu hyder au sgiliau bywn annibynnol.- Sicrhau y gall pobl symud ymlaen i fyw yn annibynnol ar ôl cwblhau eu cynllun cymorth yn y fath fodd y gallent wedyn barhau i fyw yn annibynnol ar ôl ir gefnogaeth ddirwyn i ben.
- Cefnogi pobl sydd wedi derbyn llety yn y prosiect hwn i ddod o hyd ac ailsefydlu i lety tymor hir ar ôl cwblhau eu cynllun cymorth.- Atal pobl rhag cael eu cartrefu mewn llety anaddas.
- Cefnogi pobl i adnabod opsiynau cyraeddadwy a chynaliadwy ar gyfer llety symud ymlaen, gan gynnwys llety a rennir lle bynnag y bo'n briodol.- Hyrwyddo ffordd o fyw sefydlog.
- Darparu cefnogaeth ymatebol i bobl dros saith niwrnod gan ymestyn i ddarpariaeth y tu allan i oriau arferol.
- Cyfrannu at ostwng unigedd cymdeithasol a hybu ymgysylltiad gweithredol mewn cymdeithas.- Sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a gwaith gwirfoddol ac yn cael y cyfle i gyflawni eu llawn botensial.
- Sicrhau bod lles pobl ifanc yn cael ei ddiogelu au bod yn cael eu hamddiffyn rhag niwed.

Maer Hafod yn cydweithion agos gyda HWB Dinbych sydd yn rhan or un adeilad. Maer HWB yn trefnu gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc iw cynorthwyo i baratoi ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, bydd cyfleodd i ddysgu sgiliau newydd ac i chwilio am waith.

**Y Pecyn**

**Math o gytundeb: Achlysurol**

**Cyflog**:£22,056 - £22,420 y flwyddyn

**Teithio**:Defnyddiwr Car Achlysurol

**Pensiwn**:Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

**Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)**

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad ((Sylfaenol/Manwl/Manwl gyda rhestrau gwahardd)) ar gyfer y swydd hon.

**Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.


  • Senior Gardener

    5 days ago


    Conwy, United Kingdom National Trust Full time

    We’re looking for a talented Senior Garden to join the team at Bodnant. If you’re a dedicated and enthusiastic horticulturist, who’s keen to make their mark in one of the National Trust’s most prestigious gardens, we’d love to here from you. Join our great and passionate team on a permanent full time contract. **Interviews will be held at Bodnant...

  • Cook / Cogydd

    7 months ago


    Conwy, United Kingdom National Trust Full time

    Do you have a passion for food? The National Trust is renowned for its food and hospitality. We run 185 cafes all over England, Wales and Northern Ireland, and we'd love you to be a part of it. **Benefits**:We want to help you look after the things that matter to you, such as saving for your future, getting a discount on your weekly shop, or encouraging you...

  • Cook / Cogydd

    6 months ago


    Conwy, United Kingdom National Trust Full time

    Benefits: we want to help you look after the things that matter to you, such as saving for your future, getting a discount on your weekly shop, or encouraging you to find a work-life balance. Please read our package, below, to see what benefits we offer you. **Hours**:37.5 hours a week. No split shifts, flexible working patterns, typically no evening shifts...