Rheolwr Cyllid Allanol a Grantiau

3 weeks ago


Neath, United Kingdom NPTC Group of Colleges Full time

Cymerwch y cam nesaf yn eich gyrfa ac arwain ein hysgol sy'n frwd dros gyflawni canlyniadau eithriadol.

Graddfa Reoli, Pwyntiau 1-3, £45,425 - £48,394 y flwyddyn.

37 awr yr wythnos (gan gynnwys ambell fore cynnar, nosweithiau a phenwythnosau).

**Ynglyn â chi**:Yn ddelfrydol bydd gennych gymhwyster Lefel 6 (gradd neu gyfwerth) mewn disgyblaeth berthnasol, ynghyd â phrofiad o ennill cyllid allanol a grantiau. Hoffem hefyd pe bai gennych brofiad o ysgrifennu a chyflwyno cynigion cymhellol. Mae profiad rheoli llinell hefyd yn hanfodol.

**Ynglyn â ni**:Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

**Pam y dylech chi weithio i ni?**

Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Mae'r rhain yn cael eu gweinyddu trwy'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu'r Cynllun Pensiwn Athrawon ac yn darparu pensiynau sy'n cael eu cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros £21 i'ch pensiwn, am bob £100 y byddwch yn ei ennill.

Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 37 diwrnod o wyliau y flwyddyn, a gan ein bod ni'n cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 50 diwrnod o wyliau blynyddol fel rheolwr. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith

Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae'n bodloni anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth Cymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant ymroddedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.

Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.

Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus i'n holl staff; efallai y gallwn hyd yn oed gyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.

Ar ben hyn oll, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint i ni o fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.

Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig



  • Neath, United Kingdom NPTC Group of Colleges Full time

    Cymerwch y cam nesaf yn eich gyrfa ac arwain ein hysgol sy'n frwd dros gyflawni canlyniadau eithriadol. SO2, Pwyntiau 35 - 40, £35,320 - £39,962 y flwyddyn. 37 awr yr wythnos (gan gynnwys ambell fore cynnar, nosweithiau a phenwythnosau). Amser llawn, cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2024. **Ynglyn â chi**:Yn ddelfrydol bydd gennych gymhwyster Lefel 6...