Rheolwr Gwasanaeth

2 weeks ago


Rhyl, United Kingdom The Salvation Army Full time

CYFLOG DECHRAU:
£34,464.70 y flwyddyn

ORIAU GWAITH:
40 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener, gall gynnwys rhai nosweithiau a phenwythnosau)

CYTUNDEB:
Parhaol

MANYLION:
25 diwrnod o wyliau blynyddol + gwyliau banc (pro rata ar gyfer rhan-amser); cynllun pensiwn cyfrannol; benthyciad tocyn tymor; rhaglen cymorth i weithwyr

DYDDIAD CAU:
Mawrth 8fed

DYDDIAD CYFWELIAD:
I’w gadarnhau

Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol, brwdfrydig a llawn cymhelliant i arwain ein gwasanaeth newydd, y Prosiect Cymorth Llety Argyfwng Dros Dro (TEASP) yn Sir Ddinbych.

Nod y prosiect hwn yw darparu profiad gwell, cyffredinol, o fyw mewn llety dros dro yn Sir Ddinbych, lle mae pobl yn cael eu cefnogi i wella eu lles ac adeiladu ar eu dyfodol.

Bydd TEASP yn cefnogi hyd at 32 o aelwydydd sy’n byw mewn llety dros dro ar hyn o bryd. Bydd cymorth yn dechrau yn y lle cyntaf mewn lleoliadau dros dro presennol yn y fwrdeistref (Gwely a Brecwast), cyn trosglwyddo i gyfleusterau byw â chymorth pwrpasol, wrth i'r adeiladau hyn ddod ar gael.

Mae TEASP ar ddechrau ei daith ac rydym yn chwilio am berson unigryw a thalentog sy’n awyddus i deithio gyda ni.

**Cyfrifoldebau Allweddol**:

- Arwain tîm sy'n cefnogi teuluoedd a phobl sengl sy'n byw mewn llety brys dros dro ar draws sawl safle yn y Rhyl.
- Goruchwylio rhaglen ddeniadol o weithgareddau ystyrlon i ddarparu strwythur a diben i deuluoedd a phobl sengl ar draws nifer o leoliadau cymunedol.
- Datblygu partneriaethau strategol a lleol allweddol a chyflwyno adroddiadau cynnydd o ansawdd i'n comisiynwyr a rhanddeiliaid mewnol.

**Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu**:

- Darparu rheolaeth, arweinyddiaeth ac ysbrydoliaeth i’n tîm sy’n tyfu, gan arwain wrth recriwtio a datblygu staff.
- Meddu ar yr angerdd i greu amgylcheddau galluogi, cymhwyso ymarfer wedi'i hysbysu gan seicoleg ac ymagwedd sy'n seiliedig ar drawma.
- Dangos dealltwriaeth drylwyr o gydymffurfio a diogelu gyda gwybodaeth ychwanegol am ddeddfwriaeth ddigartrefedd.
- Ymarfer egwyddorion stiwardiaeth ariannol dda
- Meddu ar y gallu i weithio mewn cydymdeimlad ag egwyddorion ysbrydol Byddin yr Iachawdwriaeth

**Er mwyn cwblhau eich cais, lawrlwythwch a darllenwch y proffil swydd ac unrhyw atodiadau eraill.**

**Ym mhroffil y swydd fe welwch y meini prawf sydd eu hangen ar gyfer y rôl, gwnewch yn siwr eich bod yn mynd i'r afael â hyn yn eich datganiad ategol gan mai hwn yw sail ein rhestr fer.**

**Penodiad yn amodol ar dystlythyrau boddhaol, prawf o hawl i weithio yn y DU, Datgeliad Manwl/Safonol y DBS/PVG/Mynediad GI (Diwygiwch fel y bo’n briodol)**

**Rydym yn cadw'r hawl i gau'r hysbyseb hwn yn gynharach os teimlwn ein bod wedi derbyn digon o geisiadau.**

**Gan hyrwyddo cydraddoldeb yn y gweithle ac fel cyflogwr cynllun hyderus o ran anabledd, rydym yn gwarantu cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd wag.