Rheolwr Adnoddau Dynol

7 months ago


Aberdare, United Kingdom Careers Wales Full time

Mae Gyrfa Cymru (Career Choices Dewis Gyrfa Cyf) yn is-gwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu gwasanaethau cyfarwyddyd ac anogaeth gyrfa sydd yn hanfodol, annibynnol, diduedd a dwyieithog i bobl o bob oed yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen Cymru’n Gweithio.

Mae gennym gyfle gwych i weithiwr proffesiynol ymroddedig a brwdfrydig arwain ein swyddogaeth Adnoddau Dynol. Mae ein gweithwyr wedi'u lleoli ledled Cymru a bydd eich profiad a'ch brwdfrydedd yn helpu i yrru ein gwaith sy'n ymwneud â phobl yn ei flaen. Gan ddefnyddio safonau arfer gorau a mewnwelediadau data i hwyluso gwneud penderfyniadau, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth ar draws y sefydliad i gefnogi amgylchedd lle gellir gweithio i lefel uchel. Gan gynghori'r tîm uwch-reolwyr, byddwch yn effeithio'n uniongyrchol ar strategaeth y cwmni, gan roi cyngor ar oblygiadau adnoddau dynol ein penderfyniadau.

Rydym fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn gyffredinol yn hapusach, ac wrth gwrs - dyna'r peth iawn i'w wneud. Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn drawsnewidiol, gan gyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol, yn galluogi gwelliannau parhaus yn yr hyn a wnawn ar gyfer pobl Cymru. Rydym wedi ymrwymo i gael gweithlu sydd, ar bob gradd swydd, yn cynrychioli'r dinasyddion yr ydym yn eu gwasanaethu.

Anogir pobl o gefndiroedd amrywiol i wneud cais am ein holl swyddi gwag.

**Rheolwr Adnoddau Dynol**

**Cyflog: £46,350 - £49,915**

**Lleoliad: Penderfynir ar y lleoliad wrth benodi ond mae trefniadau gweithio ystwyth yn eu lle.**

**Oriau gwaith: Amser llawn (37 awr yr wythnos)**

**Dyddiad cau: Hanner nos ar 27/5/24**

**Amlinelliad o'r swydd**:
Arwain, rheoli a gwella'n barhaus y swyddogaeth Adnoddau Dynol o fewn Gyrfa Cymru.

Bydd y Rheolwr Adnoddau Dynol yn arwain ac yn adrodd ar fetrigau a dangosyddion allweddol sy'n ymwneud â phobl a meysydd gwaith arwyddocaol, gan gynnwys cysylltiadau â gweithwyr, recriwtio, rheoli perfformiad a gweithredu polisïau, i gyd wedi’u halinio â gofynion contractiol a statudol ac arfer gorau.

Bydd y Rheolwr Adnoddau Dynol yn cynghori'r tîm uwch-reolwyr ar weithgareddau cysylltiadau gweithwyr allweddol, gan nodi blaenoriaethau, datblygu polisïau a safonau, a llunio cynllun gweithredol blynyddol. Bydd yn cyfrannu hefyd at ddatblygu strategaeth a rheoli'r risgiau sy'n ymwneud â phobl.

Bydd hefyd yn ofynnol i'r Rheolwr Adnoddau Dynol feithrin perthnasoedd yn fewnol ac yn allanol a chynrychioli Gyrfa Cymru mewn grwpiau priodol.

**Cymwysterau a phofiad**:
I fod yn addas ar gyfer y swydd hon, rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar y cymwysterau a phrofiad perthnasol canlynol:
Wedi graddio neu wedi ennill cymhwyster cyfatebol megis cymwysterau proffesiynol neu brofiad rheoli sylweddol a pherthnasol, neu gymwysterau rheoli cyfwerth â diploma neu uwch.

Cymhwyster proffesiynol perthnasol mewn rheoli adnoddau dynol neu gymhwyster cyfwerth:

- Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu - aelodaeth lawn yn ofynnol (MCIPD o leiaf)
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus fel sy'n ofynnol gan gorff proffesiynol

**Gofynion y Gymraeg**:
Mae Gyrfa Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i'r sefydliad. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

Bydd dysgu geiriau ac ymadroddion bob dydd sylfaenol yn rhan o'ch cyfnod sefydlu yn y cwmni os nad yw'r gallu hwn gennych eisoes.

**Gwybodaeth ychwanegol**:

- Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg._

Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn cael ei drin yn llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhywedd a statws trawsrywiol, hil neu ethnigrwydd, crefydd a chred (gan gynnwys dim cred), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu gyfeiriadedd rhywiol.

Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy'n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy'n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau wrth recriwtio ac yn cael ei drosglwyddo drwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’n gwaith - sef cefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth sicrhewch eich bod yn darllen y fanyleb swydd lawn:
Dylid cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau erbyn **27/05/24**.

Ewch i Wefan Recriwtio Gyrfa Cymru am fanylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddarganfod mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth, a'n telerau ac amodau.
- Sylwch nad ydym yn derbyn ceisiadau CV. _

Ceir buddiannau deniadol, gan gynnwys gweithio ystwyth, amser hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn cyfrannol, a chynllun arian yn ôl yn ymwneud ag iechyd.