Current jobs related to Swyddog Cydymffurfiaeth - Barry - Vale of Glamorgan Council

  • Swyddog Samplo

    4 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r Gwasanaeth Rheoleiddio a Rennir (GRhAR) yn bartneriaeth rhwng Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg sy’n cyflawni swyddogaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Thrwyddedu. Dyma rôl ddiddorol ac amrywiol yn adran Gwasanaethau Mentrau ac Arbenigol y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir. Gan weithio ledled...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Lleoli Oedolion ar gyfer Rheolwr Cynorthwyol. Mae'r Gwasanaeth Lleoli Oedolion yn darparu llety tymor byr a thymor hir i oedolion yr aseswyd bod angen gofal a chymorth arnynt ym Mro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae pobl yn byw mewn amgylchedd teuluol a ddarperir gan Letywyr Lleoli Oedolion...

Swyddog Cydymffurfiaeth

5 months ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae Tîm Cydymffurfiaeth Iechyd a Diogelwch Tai Cyngor Bro Morgannwg wedi'i leoli yn y
Gwasanaethau Tai ac Adeiladau, o dan y Gyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a Thai.

Mae'r tîm yn goruchwylio cydymffurfiaeth iechyd a diogelwch ein hasedau tai cyngor er mwyn
sicrhau bod ein preswylwyr, contractwyr, gweithwyr neu ymwelwyr yn byw ac yn gweithio mewn
cartrefi, mannau cymunedol ac amgylcheddau diogel. Mae'r tîm yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl
osodiadau'n cydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol diweddaraf, a sicrhau eu bod yn cael eu
gwasanaethu a'u harolygu, eu cynnal a'u disodli pan fo angen i gynnal ein cydymffurfiaeth.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm sy'n tyfu, gan hyrwyddo diwylliant o ddysgu a
datblygu parhaus, sy'n cwmpasu gwerthoedd craidd y Cyngor i fod yn:
Uchelgeisiol
- Meddwl gyda golwg ar y dyfodol, gan groesawu ffyrdd newydd o weithio a
buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored - Agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau yr ydyn ni’n eu
gwneud.
Gyda’n gilydd - Gweithio gyda’n gilydd fel tîm sy’n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a phartneriaid,
sy’n parchu amrywiaeth ac sydd wedi ymrwymo i wasanaethau o safon.
Balch - Balch o Fro Morgannwg: balch i wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor
Bro Morgannwg

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Gradd 8, pwynt 26 - 30 (£32,909-£36,298)

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 5 diwrnod, 37 awr yr wythnos

Prif Weithle: Gweithio hyblyg, o gartref, yn Nepo'r Alpau, Gwenfô ac unrhyw un arall ym Mro
Morgannwg, yn ôl yr angen.

Disgrifiad:
Mae’r rôl hon yn hanfodol yn y gwaith o sicrhau agwedd gadarn tuag at iechyd a diogelwch tai yn
enwedig cydymffurfiaeth drydanol ym mhortffolio Tai’r Cyngor

**Amdanat ti**

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o reoli gosodiadau trydanol, rhaglenni trydanol yn y fan a'r lle ac adnewyddu.
- Profiad o weithio mewn sefydliad sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid.
- Profiad o reoli a gweithio gyda chontractwyr trydanol.
- Dealltwriaeth drylwyr o reoliadau sy'n ymwneud â chydymffurfiaeth drydanol.
- Dealltwriaeth drylwyr o 18fed Argraffiad y Rheoliadau Gwifro.
- Gallu teithio’n effeithiol o gwmpas yr amryw leoliadau ledled Bro Morgannwg.
- Sgiliau negodi a datrys gwrthdaro da.
- Hyderus, annibynnol a sgiliau datrys problemau.
- Llawn cymhelliant a sgiliau rheoli amser da ac yn gallu blaenoriaethu llwyth gwaith i

fodloni terfynau amser.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen gwiriad gan y GDG: Oes

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Mark Harvey - Rheolwr Cydymffurfiaeth Iechyd a Diogelwch Tai
Ffôn: 02920 673113

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: EHS00465