Cynorthwy-ydd Treftadaeth

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**

**Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig sydd â sgiliau gofal cwsmeriaid rhagorol i ymuno â’r tîm yn Llyfrgell Treftadaeth Cathays.**:
**Am Y Swydd**

**Mae Llyfrgell Cangen a Threftadaeth Cathays yn darparu gwasanaethau llyfrgell sy'n cynnig amrywiaeth eang o lyfrau a mynediad cyfrifiadurol. Rydym hefyd yn hwyluso mynediad i Gasgliad Treftadaeth ac Astudiaethau Lleol Caerdydd, lle gallwch weld dogfennau, mapiau a ffotograffau hanesyddol.**:
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i ddarparu gwasanaeth Llyfrgell llawn, ynghyd â chyflawni dyletswyddau swyddfa cyffredinol gan gynnwys defnyddio systemau digidol a digwyddiadau ategol o fewn Hybiau a Llyfrgelloedd Treftadaeth Cathays

Bydd gofyn i chi gefnogi cwsmeriaid sy’n defnyddio’n gwasanaethau i ddatrys ymholiadau a chynnig gwasanaethau hyb, llyfrgell a gwybodaeth arall, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

Bydd profiad o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol gennych, y gallu i weithio’n dda fel aelod o dîm, a bydd agwedd hyblyg gennych.

Bydd sgiliau cyfathrebu a TG rhagorol gennych a byddwch yn gallu datrys anghydfodau mewn modd cadarnhaol ac adeiladol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, o fantais.

Mae’r swydd hon yn un rhan amser am 18.5 awr yr wythnos. Y cyflog pro-rata yw £10,046 y flwyddyn.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Bydd gofyn i chi weithio ar y penwythnos a gyda'r hwyr ar sail rota ac efallai bydd lleoliad y gwaith yn amrywio.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02899