Gweithiwr Cymorth Gwasanaeth Dydd

6 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae’r Gwasanaeth Dydd Caerdydd yn Wasanaeth Dydd arbenigol sy’n cynnig cymorth i oedolion sydd ag anabledd dysgu ac anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol gyda golwg ar fodloni eu hanghenion fel y’u nodwyd.

**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel aelod o dîm sefydlog sy’n cynorthwyo oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion cymhleth i fanteisio ar gyfleoedd yn ystod y dydd. Mae'r rôl yn gofyn bod deiliad y swydd yn gweithio'n unigol ac fel rhan o dîm i ddilyn cynlluniau cymorth manwl a chyfrannu at ddatblygu'r cynlluniau.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am ddau weithiwr cymorht gyda phrofiad o weithio gyda phobl ag anableddau dysgu ac anghenion cymleth

Yn mwynhau bod yn weithgar, ac yn meddu ar amrywiaeth eang o ddiddordebau y gallech eu rhannu.

Ymrwymiad i gynnig cymorth cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y person i unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Y gred fod gan bobl ag anableddau dysgu hawl i gyflawni eu llawn botensial a’r hawl i ymgysylltu’n gadarnhaol yn eu cymuned.

Trwydded yrru ddilys lawn, a char i'w ddefnyddio ar gyfer y gwaith.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Bydd eich contract yn gofyn i chi weithio 37 awr yr wythnos.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03210



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Dydd Caerdydd yn Wasanaeth Dydd arbenigol sy’n cynnig cymorth i oedolion ag anableddau dysgu sydd ag anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol â’r nod o gyflawni’r canlyniadau a nodwyd. **Am Y...

  • Gweithiwr Cymorth

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i ymuno â'r Tîm Byw â Chymorth Caerdydd. Rydym yn chwilio am weithwyr cymorth i roi cymorth i unigolion ag anabledd dysgu. Rydym yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth o safon uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion yn cynnig gwaith prysur a diddorol y byddech yn ei ddisgwyl mewn...

  • Gweithiwr Cymorth

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i staff weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i sicrhau eu bod...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid, rôl dechnegol, masnachol...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Cymorth y Gwasanaeth Cynhwysiant, yn y Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg. Bydd y tîm newydd hwn yn gyfrifol am gyflawni ystod o swyddogaethau cymorth busnes ar gyfer y gwahanol dimau o fewn y Gwasanaeth Cynhwysiant. Mae'r Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg yn cynnwys amrywiaeth o wasanaethau sy'n...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Fel Cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Rydym am ddatblygu ein gwasanaethau a chryfhau ein dull o ymdrin ag arferion gwaith cymdeithasol yng Nghaerdydd. Mae Tîm Gwaith Cymdeithasol Canol y Ddinas yn rhan o...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r rôl hon ar hyn o bryd yn cael taliad atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Ydych chi'n Fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y brifysgol? Mae Gwasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau swydd fel Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd wedi cael diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    5 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

  • Welsh Headings

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaeth Dydd Caerdydd yn Wasanaeth Dydd arbenigol sy’n cynnig cymorth i oedolion sydd ag anabledd dysgu ac anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol gyda golwg ar fodloni eu anghenion fel y’u nodwyd. **Am Y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...

  • Rheolwr Gwasanaeth

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu taliad atodol ar sail y farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol. Bydd lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro rata) hefyd yn cael ei dalu os yw'r meini prawf cywir yn cael eu bodloni. Mae cyfle cyffrous wedi codi i Reolwr Gwasanaeth cymwys addas weithio ar...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn brifddinas fywiog, amrywiol a chyffrous i bawb. Nid nepell o lan y môr, y cymoedd a’r mynyddoedd, siopa penigamp a bywyd nos neu leoliadau pentrefol llonydd. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar daith weithredu drwy ddefnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein...

  • Swyddog Cymorth Busnes

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n tîm i ddarparu cymorth busnes o ansawdd uchel i Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru. Mae tîm canolog Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn darparu cymorth busnes a galluogi i fabwysiadu ledled Cymru. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm cenedlaethol bach a'i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (GMC) yn gydweithrediad Cymru gyfan o holl wasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol Cymru (wedi'u rhannu'n 5 gwasanaeth rhanbarthol) sy’n gweithio gyda ac mewn partneriaeth ag asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol (AMG) Cymru a gwasanaethau eraill. Gyda'i gilydd, mae 5 gwasanaeth mabwysiadu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno cyfle newydd cyffrous o fewn y gwasanaethau plant yng Nghaerdydd. Rydym yn lansio tîm y tu allan i oriau sy'n chwilio am weithwyr ymyrraeth pwrpasol i ddarparu cefnogaeth hanfodol i blant a theuluoedd yn ystod cyfnodau o angen. Rydym yn deall y gall heriau godi ar unrhyw adeg, ac mae angen eich help arnom...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gennym swydd wag ar hyn o bryd ar gyfer Cynorthwy-ydd Gofal a Lles yn ein Hybiau Caerdydd yn Gofalu, i ddarparu gwasanaeth sy'n rhoi cymorth i oedolion sy'n byw gyda Dementia. Cefnogir y bobl gan y gwasanaeth i fanteisio ar ystod eang o gyfleoedd dydd mewn lleoliad gofal. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Helpu i hyrwyddo a rheoli'r Hybiau Pobl Hŷn, gan roi cymorth i Reolwyr Cynllun Byw yn y Gymuned i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau'n llwyddiannus, gan ganolbwyntio'n benodol ar iechyd a lles integredig, gan alluogi mwy o gysylltiadau cymdeithasol a lleihau arwahanrwydd ar gyfer pobl hŷn o fewn y gymuned. Cefnogi’r Rheolwyr Cynllun...

  • Uwch Weithiwr Cymorth

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Gwasanaeth Byw â Chymorth Mewnol Caerdydd wrth iddo gychwyn ar raglen o wella a moderneiddio. Mae prifddinas fywiog Cymru yn cynnig y cyfle i chi weithio o fewn cymuned fwyaf a mwyaf amrywiol Cymru. Mae ein Gwasanaeth Byw â Chymorth bach ar hyn o bryd yn cefnogi 18 o unigolion ac yn cynnig...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gennym swydd wag ar hyn o bryd ar gyfer gofalwr yn ein Canolfannau Dydd yng Nghaerdydd, i ddarparu gwasanaeth sy'n rhoi cymorth i oedolion sy'n byw gyda Dementia. Cefnogir y bobl gan y gwasanaeth i fanteisio ar ystod eang o gyfleoedd dydd mewn lleoliad gofal. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn rhan o dîm...