Archwilydd

1 month ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**

**Uniondeb, Atebolrwydd, Gwrthrychedd...**

**A yw'r rhain yn bwysig i chi?**

**Maen nhw i ni**

Ydych chi'n edrych i weithio mewn Maes Gwasanaeth blaengar sy'n datblygu ac sy'n cynnig cyfle unigryw i weithio yn yr unig dîm archwilio mewnol llywodraeth leol a sefydlwyd ar sail ranbarthol yng Nghymru?

Ydych chi'n hoffi amrywiaeth a'r gobaith o weithio ar draws 4 Cyngor rhanbarthol, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer hunanddatblygiad a chynnydd? Ydych chi'n berson dymunol, hyblyg?

Yna efallai mai'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol fydd y lle i chi, sy’n cynnig gyrfa gydag amrywiaeth, newid a safonau proffesiynol, gyda chefnogaeth tîm o staff profiadol.

Mae'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol (GAMRh) yn cael ei gynnal gan Gyngor Bro Morgannwg ac yn darparu gwasanaethau archwilio mewnol i Gynghorau’r Fro, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Gweledigaeth y GAMRh yw bod yn ddarparwr Gwasanaethau Archwilio Mewnol o ddewis i'r sector cyhoeddus yn Ne Cymru, bod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer archwilio mewnol yn y sector cyhoeddus a bod yn wasanaeth sy'n cael ei ystyried yn un proffesiynol, hawdd mynd ato, hyblyg ac annibynnol ond yn un mewnol i'r sefydliad - yn gyfaill beirniadol. Ffurfiwyd y gwasanaeth ym mis Ebrill 2019 ac yn ddiweddar mae wedi cael ei ailstrwythuro sydd wedi creu cyfleoedd i unigolion brwdfrydig ac ymroddedig iawn y mae gweithio yn y sector cyhoeddus yn bwysig iddynt i ymuno â'r tîm. Mae’r cyfle unigryw hwn yn cynnig cyflog cystadleuol ac amgylchedd gwaith hyblyg a fydd yn eich galluogi i dyfu ac i ddatblygu eich gyrfa.

**Ynglŷn â'r rôl**

**Manylion Tâl**:Gradd 7 PGC 20 - 25 (£28,371 to £32,020)

**Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio**: Dydd Llun i ddydd Gwener 37 awr yr wythnos

**Prif Weithle**:Gweithio gartref / Swyddfeydd y Cyngor yn yr ardal a gwmpesir gan y Gwasanaeth a Rennir - i'w gytuno.

**Disgrifiad**:
Prif ddiben rôl yr Archwilydd yw cynnal adolygiadau, gan gynnig sicrwydd ar effeithiolrwydd prosesau rheoli risg, rheolaeth a llywodraethu. Hefyd, bydd Archwilwyr yn cynorthwyo ag ymchwiliadau twyll mewnol yn ôl y gofyn.

**Amdanat ti**

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Cymhwyster addysgol Lefel 4 perthnasol e.e. Technegydd Cyfrifeg Cymwys (MAAT) neu gyfateb a/neu brofiad cyfatebol perthnasol.
- Profiad o weithio ym maes cyllid.
- Gwybodaeth ymarferol dda am systemau swyddfa TG fel Microsoft Office.
- Gallu i gyfathrebu’n effeithiol ac yn argyhoeddiadol ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Dealltwriaeth o swyddogaethau a gweithrediadau Llywodraeth Leol.
- Gallu i ymgysylltu ac ysgogi eraill a’u hargyhoeddi o werth gwaith archwilio mewnol.
- Gallu i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i gwsmeriaid, gan ystyried anghenion y cleientiaid a bod yn ymatebol i’w gofynion.
- Gallu i ddangos blaengaredd a gweithio heb oruchwyliaeth agos ond gan gadw’r tîm mewn cof.
- Wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol a phersonol.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddatblygu yn eich maes dewisol ac i ragori yn eich gyrfa.

Rydym yn cynnig buddion staff rhagorol gan gynnwys cyflog cystadleuol, cyfraniad pensiwn hael, gweithio hyblyg, a rhaglen cymorth cyflogeion.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Oes angen gwiriad gan y GDG? Gwiriad Sylfaenol

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodol i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: RES00356