Rheolwr Trafnidiaeth Teithwyr

4 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a phrofiadol i ymuno â'r Tîm Trafnidiaeth Teithwyr a’i reoli. Bydd y rôl yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, reoli tîm o swyddogion sydd â chyfrifoldeb am y canlynol:

- Prif-ffrydio gwasanaethau trafnidiaeth ysgol ADY ar gyfer bron i 3500 o ddisgyblion ar amrywiaeth o gerbydau, gan gynnwys tacsis, bws mini, cerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn a bysus mawr.
- Gwasanaethau bws lleol â chymorth ariannol ledled Bro Morgannwg ac awdurdodau cyfagos a’r cynllun tocynnau rhatach.
- Rhedeg gwasanaeth trafnidiaeth cymunedol y Cyngor, Greenlinks, yn ogystal â chynnig cymorth i sefydliadau trafnidiaeth cymunedol eraill ym Mro Morgannwg
- Gweinyddu'r cynllun trafnidiaeth Coleg Ôl-16 am ddim.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Gradd 9, PCG 31 - 35 £39,186 - £43,421 y flwyddyn

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos

Prif Weithle: Depo’r Alpau, Gwenfô CF5 6AA / Gweithio o bell

**Disgrifiad**:
Bydd yr Unigolyn yn rheoli ac yn sicrhau gweithrediad di-dor yr HOLL wasanaethau trafnidiaeth teithwyr, gan gynnwys trafnidiaeth ysgol Prif Ffrwd ac ADY, darpariaeth gwasanaeth bysus lleol (gan gynnwys y cynllun tocynnau bws rhatach), trafnidiaeth gymunedol a thrafnidiaeth coleg ôl-16.

Bydd y rôl yn cynnwys rheoli nifer o gyllidebau, gan sicrhau bod y Cyngor yn cael y gwerth gorau am arian drwy wahanol ddulliau o gaffael ac optimeiddio gwasanaethau.

Bydd yr unigolyn yn gyfrifol am reoli tîm o swyddogion Trafnidiaeth a swyddogion cymorth sy'n dyrannu teithwyr i wasanaethau, trefnu contractau gyda gweithredwyr, tendro a gofyn am ddyfynbrisiau, delio ag ymholiadau, cynnal gwiriadau GDG, monitro contractau a thasgau gweinyddol cyffredinol yn ôl y gofyn.

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- O leiaf 5 mlynedd o brofiad mewn adran trafnidiaeth llywodraeth leol y dylai o leiaf 2 flynedd o hynny fod wedi bod ar lefel goruchwylio.
- Profiad o bob math o drafnidiaeth teithwyr.
- Profiad o reoli cyllidebau.
- Dealltwriaeth ardderchog o’r gwasanaethau trafnidiaeth teithwyr a ddarperir gan Awdurdod Lleol.
- Gwybodaeth ardderchog am ddeddfwriaeth drafnidiaeth gyda phrofiad o weithio gyda thrafnidiaeth teithwyr ffordd a deddfwriaeth trafnidiaeth ysgol.
- Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch.
- Y gallu i weithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun heb lawer o oruchwyliaeth.
- Y gallu i reoli ac ysgogi staff.
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser llym
- Y gallu i ragweld anghenion y gwasanaeth yn y dyfodol a chynllunio a rheoli adnoddau’n effeithiol i fodloni’r angen hwnnw.
- Yn gallu cyfathrebu a phob math o gwsmer.
- Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys defnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol ac offer cynllunio llwybrau.
- Y gallu i ddelio â gwrthdaro ac ymddwyn yn ddigynnwrf ac yn gwrtais bob tro mewn sefyllfaoedd heriol.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da gyda'r gallu i gofnodi gwybodaeth yn gywir.
- Wedi’i hyfforddi i NVQ 3 neu gyfwerth.
- Cymhwyster proffesiynol trafnidiaeth perthnasol, fel aelodaeth CILT, neu fod yn barod i sicrhau aelodaeth o fewn blwyddyn gyntaf y rôl.
- Hynod awyddus a brwdfrydig gydag agwedd hyblyg tuag at waith ac ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth o safon uchel.
- Y gallu i ddatblygu’r gwasanaeth a staff yn effeithiol.
- Y gallu i weithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun heb lawer o oruchwyliaeth.
- Gweithio fel aelod o dîm.
- Yn llawn cymhelliant er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau o fewn cyfyngiadau ariannol y cyllidebau a ddyrennir.
- Hyblyg.
- Gallu gyrru/ teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel y bo'n briodol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Oes

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: EHS00549