Gofalwr

3 weeks ago


Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

Bydd y Gweithiwr Cyfleusterau yn gwneud gwaith cynnal a chadw cyffredinol ac atgyweiriadau dros dro ar eiddo, gosodiadau a ffitiadau ac i sicrhau diogelwch y safle, ynghyd â’i gynnwys. Bydd disgwyl i chi weithio’n hyblyg ar draws holl gampysau’r Coleg a chyda phatrymau shifftiau gweithio. Bydd yn ofynnol i’r Gweithiwr Cyfleusterau fynd allan i alwadau brys e.e. llifogydd, tân, tresmaswyr a chymryd unrhyw gamau yn ôl yr angen (e.e. marsialio ac ati).

Eich oriau gwaith safonol fydd 37 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn. Bydd gofyn i chi fod yn hyblyg gyda’ch patrwm gwaith i ateb anghenion yr adran. Mae’r patrwm shifftiau yn cynnwys nosweithiau, penwythnosau a shifftiau rhwng 6:00am a 10:00pm. Yn ogystal, bydd gofyn i chi gymryd rhan yn y ‘rota ar alwad’. Sylwch y byddwch yn derbyn tâl ychwanegol i fod wrth law ac ar gyfer galwadau allan.

Gyda phrofiad blaenorol mewn rôl debyg, yn ddelfrydol, byddwch yn meddu ar gymhwyster NVQ Lefel 3 mewn crefft berthnasol a chymhwyster Cymorth Cyntaf ac IOSH neu fod yn barod i weithio tuag ato. Bydd gennych wybodaeth gyfoes o COSHH a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys codi a chario, gallu trafod uchderau a lleoedd cyfyng.

Mae'r gallu i deithio i wahanol safleoedd y Coleg yn hanfodol.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar._

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).