Trainee Journalist

2 months ago


Cardiff, United Kingdom ITV Jobs Full time

**Newyddiadurwr dan hyfforddiant**

**(Rhaglenni Cymraeg)**

**ITV Cymru Wales**

**2 x cytundeb 12 mis**

**Lleoliad : Caerdydd**

**Cyflog : £23,477 - £27,909**

**Mae eich gwaith yn bwysig**

Mae siapio diwylliant yn rhan o DNA ITV. Nid yw’n syndod y byddwch yn dod o hyd i ni ym mhob cartref yn y DU, mae ein cynyrchiadau yn enwog ledled y byd ac rydym ar flaen y gad yn y chwyldro ffrydio digidol.

**Gallwch gael dylanwad**

**Y tim**

Mae Newyddion ITV yn cynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel y gellir ymddiried ynddo gan ddenu’r cynulleidfaoedd mwyaf erioed.

**Y rôl**

Ydych chi’n caru’r cyfryngau cymdeithasol?

Mwynhau siarad gyda phobl newydd a chlywed eu straeon?

Hoffi’r syniad o weithio rhywle lle mae bob diwrnod yn wahanol?

Os mai ‘ydw’ yw’r ateb i un o’r uchod - dyma’r swydd i chi.

Mae ITV Cymru, mewn partneriaeth gydag S4C, yn chwilio am bobl sydd eisiau datblygu gyrfa ym myd newyddiaduraeth, ac i greu cynnwys cyffrous yn y Gymraeg.

Bydd y cynllun hyfforddiant 12 mis yn eich galluogi i greu cynnwys newyddion a materion cyfoes ar Instagram Dim Sbin, Tiktok ‘Hansh Dim Sbin’ ac i wasanaeth Newyddion digidol S4C.

Byddwch yn ymateb i straeon y dydd gyda ffocws o gyflwyno’r cynnwys i gynulleidfaoedd ifanc. Bydd cyfle i chi ddatblygu syniadau gwreiddiol eich hunain ar bynciau gwahanol, o fyd y selebs i straeon am gyfiawnder cymdeithasol.

Bydd gennych ddealltwriaeth wych o blatfformau digidol a sut i’w defnyddio i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Byddwch hefyd yn angerddol i chwilio am amrywiaeth o leisiau a straeon o gorneli o Gymru sydd weithiau yn cael eu tan-gynrychioli.

I ymgeisio, anfonwch CV a fideo 2 funud i ni yn ateb yr isod.

Ni fydd eich sgiliau cyflwyno yn cael asesiad ond yn hytrach, cynnwys eich ateb. Mae croeso i chi anfon eich ateb yn ysgrifenedig petai hynny yn well gennych. Gallwch recordio eich clip ar eich ffon neu unrhyw declun, a’i uwchlwytho i Youtube neu wefan arall (er mwyn cael linc bydd angen cyfrif Youtube neu arall arnoch). Cofiwch i labeli’r clip yn glir gyda’ch enw chi.

Hoffwn i chi ateb y ddau gwestiwn penodol yma
- Rhowch eich enw, rhagenwau ac o ble ydych chi’n dod.
- Mae gen i ddiddordeb i fod yn newyddiadurwr dan hyfforddiant oherwydd
- Pa bynciau yr ydych chi’n teimlo’n angerddol amdanyn nhw?

Hoffwn i chi anfon eich atebion fel un fideo ac ni ddylai fod yn fwy na 2 funud o hyd.

**Sgiliau allweddol**
- Greddf Newyddiadurol
- Meddyliwr Creadigol
- Dealltwriaeth wych o blatfformau a strategaethau digidol
- Angerddol dros gynyddu cynrychiolaeth a mynediad i gynnwys newyddion i gynulleidfaoedd ifanc.

**Gofynion eraill y rôl**
- Diddordeb mewn newyddion a materion cyfoes.
- Sgiliau cyfathrebu a ieithyddol cryf.
- Profiad o waith tîm.

**Mae ITV i bawb.**

Mae ITV yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir ac yn annog ceisiadau am y rôl hon gan ymgeiswyr ag anabledd. Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl a’ch bod wedi datgan bod gennych anabledd, byddwn yn gwarantu y bydd eich cais cyfan yn cael ei ystyried (h.y. byddwch yn cyrraedd ail gam ein proses).

**Buddion gwych ITV**

Mae ITV yn cynnig buddion gwych yn cynnwys
- Gweithio hyblyg
- Gwyliau hael
- Diwrnodau gwirfoddoli a lles a chyfleuon eang i wireddu bywyd iach
- Cynllun arbed arian a chyfle i brynu cyfranddaliadau ITV
- Cyfleuon bonws
- Cyfraniadau pensiwn cystadleuol

Mwy am ein buddion fan hyn

**Dyddiad Cau: 27/06/24**

**Nodwch bod y cyfnod rhybudd i’r rôl yn 2 fis.**

**Trainee Journalist (Welsh Language Programmes)**

**ITV Cymru Wales**

**2x 12 month fixed term contracts**

**Office location: Cardiff**

**Hiring range**:£23,477****:

- £27909**

**Your work matters to millions.**

Shaping culture is in the DNA of ITV. So, it’s not surprising that you’ll find us in every home in the UK, our productions are famous all over the world and we’re at the forefront of the digital streaming revolution.

When you join us, you enter a fun working environment. With opportunities to learn, to grow and make a real difference. Small enough that your impact’s felt in the business, but big enough that your impact reaches millions of people.

Come develop your skills, change TV and the course of your career. Don’t just watch it. Be part of it. Join ITV.

**Your impact sends ripples.**

**The team**

Our News team delivers high quality and trustworthy television and online coverage that regularly attracts audiences in excess of 3.5 million viewers. It’s a fast moving environment with a huge variety of roles and challenges on offer. We operate in 11 main news production centres across England, Northern Ireland, Wales and the Channel Islands. We also have a Political Unit based in the heart of Westminster. And finally, we produce a range of current affairs & factual programming out of ITV Wales, UTV and ITV Border.ITV News delivers high quality and trustworthy coverage attracting record audien


  • Trainee Journalist

    2 months ago


    Cardiff, United Kingdom ITV Jobs Full time

    **Newyddiadurwr dan hyfforddiant** **(Rhaglenni Cymraeg)** **ITV Cymru Wales** **2 x cytundeb 12 mis** **Lleoliad : Caerdydd** **Cyflog : £21.324 -** **£26329** **Mae eich gwaith yn bwysig** Mae siapio diwylliant yn rhan o DNA ITV. Nid yw’n syndod y byddwch yn dod o hyd i ni ym mhob cartref yn y DU, mae ein cynyrchiadau yn enwog ledled y byd ac...