Cynorthwyydd Llyfrgell

3 weeks ago


Newtown, United Kingdom NPTC Group of Colleges Full time

A oes gennych yr hyn sydd ei angen i gael effaith ar fyfyrwyr a'u dysgu? Darparu cefnogaeth rheng flaen i'n tîm yn ein llyfrgell yng Ngrwp Colegau NPTC.

**Cyflog**:Graddfa 2, Pwyntiau 14-16, £21,030 - £22,094 y flwyddyn, pro rata. (yn cyfateb i £14,341 -£15,066 y flwyddyn).

**Oriau gwaith**:30 awr yr wythnos (gall gynnwys gyda'r hwyr ac ar benwythnosau).

**Contract**: Parhaol, rhan-amser, rhan o'r flwyddyn, 37.8 wythnos y flwyddyn.

**Ynglyn â chi**:Yn ddelfrydol bydd gennych gymhwyster Lefel 2 (e.e. TGAU neu gyfwerth) mewn disgyblaeth berthnasol a phrofiad perthnasol. Dylech hefyd feddu ar gymwysterau Lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU neu gyfwerth) a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 2 (gyda gwybodaeth dda o ddefnyddio MS Word ac Excel).

**Ynglyn â ni**:Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

**Pam y dylech chi weithio i ni?**

Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Mae'r rhain yn cael eu gweinyddu trwy'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu'r Cynllun Pensiwn Athrawon ac yn darparu pensiynau sy'n cael eu cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros £21 i'ch pensiwn, am bob £100 y byddwch yn ei ennill.

Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae'n bodloni anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth Cymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant ymroddedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.

Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.

Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.

Ar ben hyn oll, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint i ni o fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.

Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig