Cynorthwy-ydd Gweinyddol

3 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae Bro Morgannwg yn recriwtio ar gyfer swydd Cynorthwy-ydd Gweinyddol dros dro yn y Tîm Cyllid Gofal Cymunedol, sy’n swyddogaeth allweddol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae gan y Gyfarwyddiaeth ystod eang o ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol ynghylch amddiffyn a chefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed. Swydd dros dro yw hon tan 31/03/2025.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Cyflog: Gradd 3 PGC 4 £21,189

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37

Prif Weithle: Swyddfeydd y Dociau

Rheswm Dros Dro: Hyd at 31/03/2025 i dalu am secondiad deilydd swydd

**Disgrifiad**:
Darparu swyddogaeth gweinyddu ariannol gan gynnwys: cydgysylltu â darparwyr gofal cymdeithasol mewnol ac allanol, rhoi gwybodaeth briodol ynghylch costau, prosesu taliadau a bilio am wasanaethau gofal cymdeithasol.

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o gynnal systemau cofnodion cywir
- Gwybodaeth am becynnau Microsoft Office, gan gynnwys Word ac Excel
- Y gallu i roi sylw i fanylion
- Gallu defnyddio arloesedd.
- Gallu cyfathrebu’n effeithiol
- Sgiliau rhifedd a llythrennedd da
- Gallu aml-dasgio, blaenoriaethu gwaith a rheoli gofynion a all wrthdaro
- Gallu cyflawni gwaith yn unol â safonau a therfynau amser wedi'u gosod
- 4 TGAU (Gradd A*-C), neu gyfwerth gan gynnwys Mathemateg a Saesneg
- Parodrwydd i ddilyn hyfforddiant priodol
- Sgiliau gofal cwsmeriaid
- Parodrwydd i adennill dyledion

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen gwiriad GDG: Dim

Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: SS00593



  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous wedi codi i weinyddwr proffesiynol sydd â sgiliau cymorth busnes cryf i gefnogi gwaith y Tîm Sicrwydd Ansawdd. Mae'r Tîm Sicrwydd Ansawdd a Chanlyniadau Gwasanaeth yn dîm bach sy'n angerddol am wella ansawdd y gwasanaeth y mae ein dinasyddion ym Mro Morgannwg yn ei dderbyn. Wedi'i leoli yn y tîm Sicrwydd Ansawdd,...