Cynorthwy-ydd Canolfan Wybodaeth

2 weeks ago


Aberdyfi, United Kingdom Webrecruit Full time

Aberdyfi, Gwynedd

Amdanom ni

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r Parc yn gartref i dros 26,000 o bobl, mynydd uchaf Cymru a llyn naturiol mwyaf Cymru.

Rydym nawr yn chwilio am Gynorthwyydd Canolfan Wybodaeth i ymuno â ni yn llawn amser ar gyfer contract tymor penodol o fis Mawrth i fis Tachwedd 2024, gan weithio 37 awr yr wythnos.

Y Manteision
- Cyflog o £22,737-£23,893 y flwyddyn (pro rata)
- Pensiwn
- Lwfans Gwyliau (24 diwrnod) (pro rata)
- Y cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol
- Buddion Staff Rhagorol drwy 360 App Lles
- GP24/7
- Cefnogaeth Feddyliol ac Emosiynol
- Cymorth Cyfreithiol
- Cymorth Ariannol
- Cefnogaeth Gofalu
- 3c Oddiar Litr o Ddiesel
- Gwybodaeth am Chefnogaeth am y Menopos
- Iechyd a Ffitrwydd
- Gofynnwch I Bill
- Llyfrau Gwaith Hunan Gymorth
- Gostyngiadau
- Assist Protect am ddim am 12 mis

Y Rôl

Fel Cynorthwyydd Canolfan Wybodaeth, byddwch yn rhoi arweiniad a chymorth i’n hymwelwyr am yr ardal yn ein Canolfan Groeso yn Aberdyfi.

Byddwch yn ymateb i ystod o ymholiadau, yn enwedig y rhai am yr ardal leol, wyneb yn wyneb ac ar-lein. Byddwch yn hyrwyddo atyniadau lleol, yn annog parch a gwerthfawrogiad o rinweddau arbennig y parc ac yn hyrwyddo gwaith Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Gan gynorthwyo i adeiladu ein presenoldeb ar-lein, byddwch yn cyfrannu straeon a gwybodaeth i'w defnyddio fel cynnwys ar gyfer ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol corfforaethol.

Byddwch yn cefnogi cynnal a chadw a rhedeg y ganolfan o ddydd i ddydd, gan ddiweddaru gwybodaeth ymwelwyr, gwerthu nwyddau, ailgyflenwi stoc a sicrhau ei bod yn lân ac yn daclus.

**Yn ogystal, byddwch yn**:

- Cynorthwyo'r Rheolwr Masnachol i hyrwyddo'r ganolfan
- Cynorthwyo mewn digwyddiadau, sioeau ac arddangosfeydd lleol
- Cefnogi gweithgareddau addysgol ac iechyd a lles
- Archebu llety a chofnodi lleoedd gwag
- Cynorthwyo gyda rotas staff

Amdanoch chi

Er mwyn cael eich ystyried yn Gynorthwyydd Canolfan Wybodaeth, bydd angen:

- Y gallu i siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl
- Gwybodaeth leol a brwdfrydedd dros rinweddau'r Parc Cenedlaethol a'r ardal
- Gwybodaeth dda am ddaearyddiaeth ac atyniadau Cymru

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 19 Chwefror 2024.

Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Gynorthwyydd Gwasanaeth Cwsmer, Cynorthwyydd Canolfan Groeso, Cynorthwyydd Canolfan Ymwelwyr, Cynorthwyydd Twristiaeth, Cynorthwyydd Profiad Ymwelwyr, neu Gynorthwyydd Gwybodaeth Ymwelwyr.

Felly, i ymuno â'n sefydliad anhygoel mewn rôl werth chweil fel Cynorthwyydd Canolfan Wybodaeth, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.