Glanhawr - Peterston Super Ely
7 months ago
**Amdanom ni**
To provide a cleaning service for building cleaning clients
Darparu gwasanaeth glanhau ar gyfer cleientiaid glanhau adeiladau
**Ynglŷn â'r rôl**
**Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio**:Dydd Llun i ddydd Gwener.
**Amser tymor** 28.75 awr/wythnos or 13.75 & 15 awr/wythnos (38 wythnos).
**Egwyl** 22 awr/wythnos (5 wythnos).
***Prif Waith**: Peterston Super Ely Primary
**Disgrifiad**:
- Cynorthwyo i roi gwasanaeth glanhau effeithiol i gleientiaid glanhau adeiladau
- Cymryd lle glanhawyr eraill yn ystod cyfnodau o wyliau, salwch, diffyg staff ac absenoldebau eraill.
- Cynorthwyo’r goruchwylydd / goruchwylydd safle yn achlysurol gyda hyfforddi staff glanhau.
- Ymgymryd â’r holl agweddau ar dasgau glanhau fel; glanhau carpedi a glanhau stêm, glanhau yn unol â'r fanyleb safle, glanhau ar ôl gwaith adeiladu, glanhau yn ystod egwyliau a glanhau arall na nodir fel arfer yn y fanyleb safle.
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Profiad blaenorol o weithio yn y diwydiant glanhau neu mewn disgyblaeth/amgylchedd arall cysylltiedig â glanhau.
- Dealltwriaeth sylfaenol o'r amryw dasgau glanhau y mae angen eu gwneud i ddarparu Gwasanaeth Glanhau effeithlon ac effeithiol.
- Sgiliau llafar da a gallu trafod ag aelodau’r cyhoedd a swyddogion cleient.
- Gallu cyflawni dyletswyddau codi a chario a llafurio’n gorfforol.
- Rhaid gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun a chyflawni dyletswyddau’n effeithiol.
- Cadarnhaol a hunan-gymhellol gyda’r gallu i fod yn hyblyg ac ymatebol i newidiadau mewn blaenoriaethau a galw.
- Parod i weithio oriau afreolaidd.
Gallu gyrru/teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel sy’n briodol
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: Manwl
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Lynne Armstrong 02920 673120
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach
Job Reference: EHS00570
-
Cleaner - Peterston Super Ely
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**About us** To provide a cleaning service for building cleaning clients **About the role** Pay Details**: Grade 1 £12.00ph **Hours of Work** / Working Pattern: Monday to Friday. **Term time** 28.75 hrs/week or 13.75 & 15 hours (38 weeks). **Recess** 22 hrs/week (5 weeks). **Main Place of Work**: Peterston Super Ely Primary **Description**: - To...