Tiwtor/asesydd Mewn Gwyddoniaeth

4 weeks ago


Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

**Amdanom ni**:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

**Y Rôl**:
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac ysbrydoledig i gefnogi ac asesu prentisiaid ar lwybrau Gwyddorau Bywyd a Thechnegwyr Labordy a Gwyddoniaeth. Dyma gyfle gwych i gyfrannu at raglen o’r radd flaenaf ac ymuno ag adran hynod lwyddiannus. Mae’r cymwysterau a gynigir o fewn y sector hwn yn cynnwys Diploma Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Gynhwysol, HNC Cemeg Gynhwysol a Diploma NVQ Lefel 4 mewn Labordai a Gweithgareddau Technegol Cysylltiedig (llwybrau Gwyddoniaeth ac Addysg Ddiwydiannol).
- ** Rhan-Amser (15 awr yr wythnos)**:

- ** Parhaol**:

- ** £10,648.40 - £11,718.80 per annum**:

- ** Campws Gorseinon**

**Cyfrifoldebau Allweddol**:

- Asesu Prentisiaid Technegol Lefel 3 a 4 yn y gweithle.
- Helpu dysgwyr i gwblhau eu cymwysterau ar amser.

**Amdanoch chi**:

- Gallu dangos tystiolaeth o asesu dysgwyr ar lwybr tebyg.
- Profiad gwaith diweddar mewn labordy addysgol neu ddiwydiannol, a gwybodaeth gyfredol amdanynt.
- Yn ddelfrydol bydd gennych Ddyfarniad Asesu (CAVA, TAQA, A1, D32 / D33 neu gymhwyster Asesu Hyfforddiant).
- Cymhwyster Lefel 2 (TGAU neu gyfwerth) mewn Mathemateg a Saesneg.
- Ymagwedd frwd a hunanysgogol.
- Gwybodus, cefndir ym maes gwyddoniaeth a’r gallu i ddangos tystiolaeth o asesu dysgwyr ar lwybr tebyg.

**Buddion**:

- 28 diwrnod (pro-rata) o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- 2 ddiwrnod lles i staff
- Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad._

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar._

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).


  • Tiwtor Cemeg

    7 days ago


    Swansea, United Kingdom Swansea University Full time

    **Prif ddiben y swydd** Er mwyn cyflawni ei huchelgais cynaliadwy o fod yn un o'r 30 o brifysgolion gorau, mae angen ar Brifysgol Abertawe weithlu â'r sgiliau amrywiol angenrheidiol i sicrhau ei bod yn gallu cyflawni rhagoriaeth mewn ymchwil, addysgu, dysgu a phrofiad ehangach y myfyrwyr, ac i fod yn bwerdy ar gyfer economi'r rhanbarth ac yn...


  • Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    **Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...


  • Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    **Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...