Darlithydd Cyfrifiadureg

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Cyf**:12029**

**Teitl y Swydd**:Darlithydd Cyfrifiadureg**

**Contract: Rhan Amser a Delir Fesul Awr, Cyfnod Penodol tan fis Mehefin 2023**

**Oriau: 6 awr yr wythnos**

**Cyflog: £22,583 - £44,444 pro rata**

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Darlithydd Cyfrifiadureg o fewn adran Fusnes, TG ac Astudiaethau Proffesiynol Coleg Caerdydd a’r Fro. Swydd ar-lein yw hon.

Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:

- Weithio’n agos gyda thimau Sgiliau Cymru a World Skills Uk i ddatblygu cystadlaethau World Skills a sgiliau Dysgwyr ymhellach
- Ymgymryd â'r holl waith academaidd, fel paratoi gwersi, addysgu yn yr ystafell ddosbarth, gwaith tiwtorial a marcio.
- Cynnal asesiadau i fyfyrwyr er mwyn lleoli myfyrwyr, monitro cynnydd ac adnabod anghenion cymorth dysgu
- Darparu cymorth priodol i fyfyrwyr er mwyn diwallu anghenion academaidd a llesiant dysgwyr a sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol wedi'i chofnodi ar y systemau Coleg priodol
- Ymgymryd â gwaith sefydliadol a gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r uchod. Mae hyn yn cynnwys, mynychu cyfarfodydd tîm, cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu proffesiynol ac arfarniadau staff, cynnal cofnodion yn gysylltiedig ag addysgu cywir yn cynnwys manylion asesu a phresenoldeb
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau gwerthuso cwrs a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm
- Ymwneud â marchnata, h.y. adnabod gofynion defnyddwyr, creu deunyddiau hyrwyddo priodol a gweithio ag asiantaethau allanol lle bo'n briodol
- Cyflawni dyletswyddau eraill sy'n rhesymol ofynnol ohonoch, yn gymesur â'ch graddfa; yn eich lleoliad gwaith cychwynnol neu leoliadau eraill yn nalgylch y Coleg;
- Byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 03/03/2023 yr 12:00pm.**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.