Porthor/cynorthwy-ydd

3 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Ynglŷn â'r gwasanaeth

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolion ymrwymedig gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a diogelwch gwych i ymuno â'n tîm. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhan o’r tîm Porthor/Cynorthwy-ydd Diogelwch sydd wedi'i leoli yn Allgymorth neu Hyb y Llyfrgell Ganolog

Rydym yn cymryd lles ein staff o ddifrif ac yn ymdrechu i ddarparu trefniadau gweithio cadarnhaol sy'n cefnogi ein gweithlu gwych i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.

Dyma rai enghreifftiau o sut yr ydym yn ymdrechu i gyflawni hyn:

- Hawl i wyliau blynyddol hael.
- Trefniadau gweithio y gellir eu haddasu, a all gynnwys cynllun fflecsi sy'n eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi ac sy'n bodloni anghenion y gwasanaeth.
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg a dibynadwy.
- Mynediad at rwydweithiau cydraddoldeb cyflogeion ar gyfer cymorth, arweiniad a chymdeithasu (mae'r rhwydweithiau hyn yn cynnwys y Rhwydwaith Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, Rhwydwaith Gofalwyr, Rhwydwaith Anabledd, Rhwydwaith LHDT a’r Rhwydwaith Menywod).
- Mynediad at gymorth lles gweithwyr cynhwysfawr.
- Mynediad at y Llwyfan Manteision i Weithwyr MyAdvantages (sy'n cynnwys mynediad at Gynllun Beicio i'r Gwaith y Cyngor a gostyngiadau unigryw gyda manwerthwyr fel Asda, Tesco ac Ikea).

**Am Y Swydd**
Byddwch yn helpu i ddarparu amgylchedd diogel, tawel a rheoledig i'r staff a'r cyhoedd ei fwynhau. Bydd gennych brofiad blaenorol o ddiogelwch, bydd gennych hyder yn eich galluoedd a'ch proffesiynoldeb wrth ymdrin ag uwchgyfeirio.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus brofiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid a'r gallu i addasu'n gyflym.

Bydd gennych brofiad blaenorol o gadw allweddi yn ogystal â sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau.

Bydd gofyn i chi weithio ar sail rota, gan gynnwys dydd Sadwrn: bydd y shifftiau’n amrywio yn ôl anghenion y gwasanaeth.

Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol o fantais. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn chwarae rôl arweiniol yn y gwaith o hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer y gwasanaeth yn gyffredinol.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Swydd dros dro yw hon tan 31/03/2025.

**Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig ar radd nad yw’n is na RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.**

**Mae’r cyflog hwn yn cynnwys tâl atodol y Cyflog Byw sy’n cynyddu’r cyfraddau tâl i £12.00 yr awr (pcg 2-4). Caiff y tâl atodol hwn ei adolygu ym mis Ebrill 2025 a phob mis Ebrill ar ôl hynny. Ceidw Cyngor Caerdydd yr hawl i wneud unrhyw newidiadau i dâl atodol y Cyflog Byw neu ei ddileu**

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03855