Dirprwy Glerc y Dref
2 weeks ago
**Cyngor Tref Ffestiniog**
**DISGRIFIAD SWYDD A MANYLEB Y GWEITHIWR**
**Teitl Swydd: Dirprwy Glerc y Dref**
**Adrodd wrth**: Clerc y Dref/Swyddog Ariannol Cyfrifol
**Gradd**: £27,344 pro rata (yn amodol ar gymwysterau a phrofiad) SC18
**Oriau**: 27.5 awr yr wythnos
**Wedi’i leoli yn**: Swyddfa Cyngor Tref, Y Ganolfan Gymdeithasol, Ffordd Wynne, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3UF
**Patrwm Gwaith**: Dydd Llun i Ddydd Gwener ond gyda gwaith rheolaidd gyda’r nos sy’n gofyn am hyblygrwydd ar ran y deiliad swydd.
**Diben y Rôl**
Bydd Dirprwy Glerc y Dref yn cefnogi Swyddog Priodol y Cyngor Tref wrth ymgymryd â’i ddyletswyddau statudol a swyddogaethau ac, yn benodol, i wasanaethu neu gyhoeddi'r holl hysbysiadau sy’n ofynnol yn gyfreithiol gan Swyddog Priodol awdurdod lleol.
Bydd Dirprwy Glerc y Dref yn cefnogi Clerc y Dref/Swyddog Ariannol Cyfrifol wrth sicrhau bod cyfarwyddiadau'r Cyngor Tref mewn cysylltiad â’i swyddogaeth fel awdurdod lleol yn cael eu cynnal.
Yn absenoldeb Clerc y Dref bydd disgwyl i’r Dirprwy ymgymryd â holl elfennau rôl Clerc y Dref i sicrhau bod gweinyddiaeth o ddydd i ddydd ar faterion y Cyngor Tref yn cael eu gweithredu’n llawn.
**DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL**
**1.**
**Llywodraethu a Gweinyddu**
1.1
1.2
1.3
1.4
Cynorthwyo Clerc y Dref fel sy’n ofynnol mewn perthynas â gweinyddiaeth y Cyngor, Pwyllgor a chyfarfodydd eraill gan gynnwys paratoi agendâu a chofnodion gan gynnwys presenoldeb mewn cyfarfodydd gyda’r nos sydd fel arfer yn cael eu cynnal ar yr 2il a 3ydd Nos Lun o bob mis ac eithrio mis Awst pan nad oes cyfarfodydd
1.5
**2.**
**Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg Gwybodaeth**
2.1
Gweithio gyda Chlerc y Dref i sicrhau bod gan y Cyngor Tref bolisïau priodol er mwyn bodloni gofynion Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth a gofynion cysylltiedig y Comisiynydd Gwybodaeth.
2.2
Sicrhau bod yr holl ffeiliau a chofnodion yn cael eu cynnal mewn modd effeithiol a bod polisi’r Cyngor Tref ar gadw dogfennau yn cael ei weithredu’n llawn.
2.3
Sicrhau bod trefniadau effeithiol ac effeithlon wedi’u sefydlu i ddelio gyda diogelwch gwybodaeth a data a bod y cyngor yn cydymffurfio â chynllun adfer busnes.
**3.**
**Rheoli Ystadau a Chyfleusterau**
3.1
Cynorthwyo Clerc y Dref wrth reoli, datblygu, gweinyddu a chynnal tir ac adeiladau sydd o dan reolaeth y Cyngor Tref gan gynnwys meysydd chwarae, Y Parc, llochesi bws, camerâu cylch cyfun a swyddfeydd a Siambr y Cyngor.
3.2
Trefnu ar gyfer rheoli a gweinyddu archebion ar gyfer eiddo o dan reolaeth y Cyngor.
**4.**
**Cyfathrebu**
4.1
Cynorthwyo Clerc y Dref wrth baratoi datganiadau i’r wasg, Cylchlythyron a dogfennau cyhoeddusrwydd eraill.
4.2
Cynorthwyo wrth baratoi ymgyrchoedd marchnata fel sy’n ofynnol gan y Cyngor Tref sy’n cynnwys ffyrdd arloesol newydd o gyfathrebu negeseuon allweddol i randdeiliaid.
4.3
Cynorthwyo wrth weithredu pob digwyddiad (gan gynnwys digwyddiadau dinesig, digwyddiadau trefeillio a mentrau ymgysylltu â’r gymuned) a gymeradwyir gan y Cyngor Tref gan sicrhau eu bod yn cael eu cyflenwi o fewn cyllideb ac o fewn y graddfeydd amser y cytunwyd arnynt.
4.4
Cynnal gwefan y Cyngor Tref mewn ffordd arloesol
**5.**
**Iechyd a Diogelwch**
5.1
Cynorthwyo wrth sicrhau bod rhwymedigaethau statudol y Cyngor Tref ar gyfer rheolaeth effeithiol ar iechyd a diogelwch yn cael eu bodloni a bod polisi iechyd a diogelwch a phrosesau a gweithdrefnau ategol yn cael eu hadolygu ar gyfnodau priodol
5.2
Cynorthwyo wrth baratoi asesiadau risg mewn perthynas â’r holl wasanaethau, eiddo a digwyddiadau.
5.3
Gofalu am eich iechyd a diogelwch eich hun
**6.**
**Cydraddoldeb ac Amrywiaeth**
6.1
Cefnogi’r Cyngor Tref wrth sicrhau bod darpariaethau’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn cael eu hadlewyrchu ym mhob agwedd ar ei waith.
**7.**
**Rheoli Pobl**
7.1
Cymryd cyfrifoldebau rheoli pobl Clerc y Dref yn ei habsenoldeb.
**8.**
**Datblygiad Personol**
8.1
Cyflawni, o fewn cyfnod a bennir mewn ymgynghoriad â’r Cyngor, cymhwyster Tystysgrif mewn Gweinyddu Cyngor Lleol (CiLCA Wales) (Ariennir hyn gan y Cyngor).
8.2
8.3
Dod yn aelod o Gymdeithas Clercod Cyngor Lleol (Ffi flynyddol i’w hariannu gan y Cyngor Tref).
**9.**
**Arall**
9.1
Ymgymryd â dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd sy’n gymesur â lefel a gradd y swydd.
**MANYLEB Y GWEITHIWR**
**PROFIAD/ GALLU**
**PWYSIGRWYDD**
**DULL ASESU**
**Cymwysterau ac Addysg**
Addysg gyffredinol dda gyda 5 TGAU lefel C neu uwch gan gynnwys Cymraeg, Mathemateg a Saesneg
Hanfodol
Ffurflen Gais/Darparu Tystysgrifau
Parodrwydd i weithio tuag at sicrhau’r cymhwyster Tystysgrif mewn Gweinyddu Cyngor Lleol (CiLCA Wales)
Hanfodol
Ffurflen gais/Cyfweliad
Profiad gwaith ar lefel briodol i ddyletswyddau’r swydd
Dymunol
Ffurflen gais/Cyfweliad
**Gweinyddu a Rheolaeth Ariannol**
O leiaf 3 blynedd o brofiad o waith gweinyddu ac ariannol
Dymunol
Ffurflen gais
Dealltwriaeth amlinellol o reoli