Gweinydd Gofal

4 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae Rondel House yn darparu Gwasanaeth Dydd i bobl hŷn sy'n byw yn ardaloedd Canol a Dwyrain Bro Morgannwg, a allai ddioddef o eiddilwch sy'n gysylltiedig ag oedran, salwch cronig, anabledd a/neu ddementia.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwasanaeth 5 diwrnod, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn darparu amgylchedd diogel lle gall pobl ryngweithio a chael hwyl trwy amrywiaeth o weithgareddau. Ein nod yw cadw pobl mor annibynnol â phosib ond hefyd rhoi symbyliad cymdeithasol ac atal unigrwydd. Drwy ddod i mewn i Wasanaeth Dydd mae'n caniatáu i ofalwyr beth amser i ffwrdd o'u dyletswyddau gofalu ac yn rhoi rhywfaint o seibiant iddynt.
Mae gennym amrywiaeth o gyfleusterau ar y safle gan gynnwys amgylchedd cwbl hygyrch; prif ystafell ddydd ar gyfer cymdeithasu; lolfa deledu dawel; ystafell ymolchi â chymorth; technoleg ryngweithiol ac offer crefft.
Yn Nhŷ Rondel rydym yn darparu pryd amser cinio i sicrhau maeth da. Gall ein tîm staff profiadol helpu gyda gofal personol ac mae gennym offer anabledd arbenigol ar gael ar y safle.
Ein nod yw hyrwyddo cydraddoldeb, dewis, annibyniaeth a datblygiad personol i wella ansawdd bywyd unigolion.”

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion am gyflog: Gradd 3, PCG 4 £21,189 y.f. pro rata / £10.98 yr awr
Oriau Gwaith: Yn ôl yr angen rhwng 9.00 a.m. a 4.00p.m.
Prif Waith: Tŷ Rondel, y Barri

Rhoi gofal a chymorth i ddefnyddwyr gwasanaeth tra eu bod yn y Ganolfan Ddydd.

**Amdanat ti**
- Profiad o weithio gyda phobl hŷn a phobl sydd ag anableddau
- Profiad o weithio gyda phobl sydd â Demensia
- Profiad o weithio mewn amgylchedd tîm
- Ymwybyddiaeth sylfaenol o anghenion pobl hŷn a phob sydd ag anableddau
- Sgiliau gwrando a chyfathrebu da
- Y gallu i ryngweithio’n gadarnhaol gydag eraill ar bob lefel
- Bod yn ddibynadwy a chael agwedd hyblyg
- Parodrwydd i ddilyn hyfforddiant priodol
- G allu i yrru/deithio ar hyd a lled y Fro ac o fan i fan fel y bo’n briodol

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: Manwl
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Miles Utting - 01446 745922

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.

Job Reference: SS00642