Ymarferydd RHianta

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn rhan o wasanaethau Cymorth Cynnar Cyngor Caerdydd, sydd ar gael i’r holl deuluoedd sy'n byw ar draws Caerdydd gyda phlentyn neu berson ifanc dan 18 oed. Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn cael ei ariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru ac mae'n ategu'r gwasanaethau rhianta a gynigir yn ardaloedd Dechrau'n Deg Caerdydd. O fewn Rhianta Caerdydd 0-18, mae rhaglenni grŵp a rhaglenni unigol ar gael. Gyda'i gilydd, mae'r Gwasanaethau Rhianta yn cael eu harwain gan Uwch Seicolegydd Addysg.

Mae'r Rheolwr Grwpiau Rhianta (Rhianta Caerdydd 0-18) yn rheoli tîm o ymarferwyr sy'n darparu rhaglenni rhianta grŵp a rhaglenni 1:1 dan arweiniad ledled Caerdydd.

Mae gennym swyddfeydd ledled Caerdydd.

**Am Y Swydd**
Mae hon yn rôl ran-amser, 18.5 awr yr wythnos. Rydym yn awyddus i benodi Ymarferydd Rhianta, a fydd yn cynnig amrywiaeth o Raglenni Rhianta i’r gwasanaeth Rhianta Caerdydd 0-18 ledled Caerdydd. Rydym yn gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr a fydd yn gallu darparu gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg. Darperir hyfforddiant ynghylch y rhaglenni rhianta.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnig ymyriadau rhianta ar sail grŵp ac hefyd, pan fydd angen, ar sail un i un gyda defnyddwyr gwasanaeth yn eu cartrefi; ac arwain ar ddarparu cymorth crèche i deuluoedd sydd yn defnyddio rhaglenni ymyrryd. Byd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn goruchwylio ac yn cwblhau adolygiadau perfformiad er mwyn sicrhau bod staff yn teimlo bod ganddynt gefnogaeth yn eu gwaith a chyfleoedd i ddatblygu.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arddangos:

- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Profiad o weithio mewn tîm neu broject gwasanaeth ar gyfer plant blynyddoedd cynnar, pobl ifanc a’u teuluoedd
- Profiad o weithio mewn lleoliad crèche
- Profiad o gynllunio a chyflwyno rhaglen o weithgareddau sy’n diddori plant; sy’n diwallu anghenion unigol a cham datblygiadol y plentyn.
- Dealltwriaeth o faterion diogelu yn ymwneud â phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd a phrofiad o ddelio gyda’r materion hynny

Gweler y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person atodol am fanylion llawn y gofynion, gan gynnwys Gallu Ymddygiadol Cyngor Caerdydd.

Os hoffech drafod y swydd cyn ymgeisio, cysylltwch â Robina Woodfield (Rheolwr Grwpiau Rhianta Caerdydd) ar 07970642561

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

**Oherwydd ein trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio drwy'r post. Ni allwn ychwaith dderbyn ceisiadau drwy'r post.**

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys y rheini:

- dan 25 oed
- nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant;
- o’n cymunedau lleol gan gynnwys yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a phobl o gymuned pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a chymuned LHDT+ Caerdydd
- sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02747


  • Ymarferydd RHianta

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn rhan o wasanaethau Cymorth Cynnar Cyngor Caerdydd, sydd ar gael i’r holl deuluoedd sy'n byw ar draws Caerdydd gyda phlentyn neu berson ifanc dan 18 oed. Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn cael ei ariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru ac mae'n ategu'r gwasanaethau rhianta a gynigir yn ardaloedd Dechrau'n Deg...